Cap cyntaf i Josh

Josh Hathaway yn cael ei ddewis i chwarae i dîm rygbi Cymru

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Josh Hathaway 04.07.24 - Wales Rugby Training in the lead up to their first Summer Series test against Australia - Josh Hathaway during trainingHawlfraint Undeb Rygbi Cymru / WRU

Josh Hathaway

Llongyfarchiadau i Josh Hathaway ar gael ei ddewis gan Warren Gatland i chwarae i Gymru yn erbyn Awstralia fore Sadwrn yn Sydney. Bydd Josh yn ennill ei gap llawn cyntaf ar yr asgell.

Yn enedigol o Aberystwyth ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Penglais; chwaraeodd Josh yn ifanc i Glwb Rygbi Aberystwyth, tîm Ysgolion Ceredigion ac Academi’r Scarlets. Yna symudodd i Goleg Hartbury ac ymuno gyda thîm Caerloyw ar gytundeb proffesiynol yn 2022.

Does dim dwywaith ei fod wedi gwneud cyn argraff gyda’i ddawn ymosodol gan sgorio 8 cais i Gaerloyw’r tymor diwethaf. Mae wedi cynrychioli Cymru dan 20 a Lloegr dan 20 ac yn sicr yn un o’r sêr ifanc mwyaf addawol Cymru.

Gellir gwrando ar sylwebaeth Gymraeg o’r gêm ar Radio Cymru fore Sadwrn gyda’r rhaglen yn dechrau am 10:30. Bydd yr uchafbwyntiau i’w gweld ar S4C am 7 nos Sadwrn.

Dymuniadau gorau i Josh.