Cynllun amddiffyn arfordir Aberystwyth

Cyfle i gael fwy o wybodaeth am y cynllun newydd heddiw ac yfory

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Storm-Eunice

Storm Eunice Chwefror 2022

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio ymgynghoriad newydd ar ddatblygu strwythurau amddiffyn yr arfordir i leddfu problemau llifogydd arfordirol ar hyd Glan Môr Aberystwyth. Mewn datganiad dywedodd y Cyngor:

“Mae deunydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn amlinellu’r problemau hanesyddol o ran llifogydd sy’n gysylltiedig â Glan Môr Aberystwyth a’r problemau tebygol yn y dyfodol o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd.”

Mae’r ymgynghoriad ar-lein wedi dechrau ac yn rhedeg tan yr wythfed o Hydref. Ond heddiw ac yfory gellir cael mwy o fanylion trwy ymweld â’r Bandstand. Dyma’r oriau agor:

Llun 2il Medi 12:00 – 20:00 a Mawrth 3ydd Medi 2024 10:00 – 17:00

Am fwy o fanylion ar-lein ewch i https://tinyurl.com/yvutun7t . Mae fideo o’r cynllun ar gael ar y wefan neu ewch i https://youtu.be/D4Amx50VtOU .

Manteisiwch ar y cyfle i roi eich barn.

Dweud eich dweud