Cyngerdd Elusen y Maer: 26/4/24

Noson Lawen i godi arian i Hafan y Waun

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson
Cyngerdd-Elusen-y-Maer

Ym mis Mai, bydd rôl Maer Aberystwyth yn trosglwyddo o Kerry Ferguson i Maldwyn Pryse, ac fel ei hymdrech olaf i godi arian ar gyfer Elusen y Flwyddyn, mae Kerry yn trefnu Cyngerdd Elusennol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ar 26 Ebrill 2024.

Mae gennym line-up gwych ar gyfer y cyngerdd – Rhys Taylor a’r Band, Adran Aberystwyth ac Elen Pencwm, a bydd Sara Gibson yn edrych ar ein holau am y noson!

Pris tocyn yw £15 (£10 consesiwn), gyda’r holl elw’n mynd i Elusen y Maer am y Flwyddyn: Hafan y Waun.

Gofynnwyd i Kerry, pam Hafan y Waun?

Roedd dewis elusen am y flwyddyn yn anodd iawn. Mae cymaint o achosion da yn Aberystwyth ac mae rhywun yn dymuno gallu helpu i godi arian i bawb! Yn y diwedd, fe wnes i’r dewis am resymau personol iawn. Bu farw fy nain yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn 2022, ac wrth gamu i rôl y maer ym mis Mai 2023, teimlwn ei fod yn gwneud synnwyr i mi gefnogi ein cartref gofal a staff dementia lleol. Rwy’n gwybod y cafodd fy nain ofal gwych yn Llangollen, ac roeddwn i eisiau dweud diolch yn fy ffordd fy hun i’r staff sy’n gweithio ym maes gofal dementia yn gyffredinol.

Rwyf wedi ymweld â Hafan y Waun ychydig o weithiau yn ystod fy mlwyddyn fel maer, ac rwy’n falch iawn o fod yn eu cefnogi. Rwyf eisoes wedi codi dros £1000 – diolch i roddion, cyngerdd Nadolig a Chwis Tafarn, a hoffwn ychwanegu at y swm hwn gyda’r cyngerdd elusennol.

I brynu tocynnau, ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau: https://aberystwythartscentre.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173645303