Cyngerdd yn codi £3,000 i HAHAV Ceredigion a Chyfeillion Bronglais

Dathlu 35 mlynedd o ddeuawd John ac Alun

Rhian Dafydd
gan Rhian Dafydd
Screenshot-2024-12-11-at-12.15.26
Screenshot-2024-12-11-at-12.15.26-1

Ym mis Tachwedd cynhaliwyd noson i ddathlu 35 mlynedd o’r ddeuawd enwog o Ben Llŷn, John ac Alun yng ngwesty Llety Parc. Roedd Sgarmes hefyd yn cymryd rhan a Dilwyn Morgan yn cadw trefn ar bawb. Roedd hi’n noson lwyddiannus tu hwnt a’r lle yn orlawn. Roedd hyn yn dyst i’r gwaith caled roedd Megan a’i thîm wedi ei wneud yn gwerthu’r tocynnau yn ogystal â chasglu gwobrau ar gyfer y raffl a’r ocsiwn. Yr arwerthwr ar y noson oedd Geraint Hughes sydd hefyd yn aelod o Sgarmes a llwyddwyd i godi swm anhygoel o £3,000 oedd yn cael ei rannu rhwng elusen HAHAV Ceredigion a Chyfeillion Bronglais League of Friends a’r ddwy elusen bwysig yma’n derbyn £1500 yr un.

Dweud eich dweud