Gig cyffrous i gymryd lle yng Nghanolfan Arad Goch

Bydd y gig yn arddangos talentau cerddorol cyfoes o sîn miwsig yng Nghymru

Arad Goch
gan Arad Goch

Ar nos Wener y 25ain o Hydref, bydd gig yn cymryd lle yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth!

Mae Gig Arad Goch Swnllyd yn addo i fod yn noson wych i unrhyw un gyda diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg!  Gyda lein-yp llawn bwrlwm yn cynnwys TARAN, sef band indie cyffrous iawn o Gaerdydd fydd yn siŵr o ddod yn un o fandiau mwyaf Cymru yn y blynyddoedd nesaf. Hefyd ar y lein-yp mae ganddom DJ sydd yn wreiddiol o Aberystwyth, sef Gwion ap Iago, sy’n perfformio o dan yr enw SGILTI.  Hwn fydd ei berfformiad cyntaf yn Aberystwyth ers blynyddoedd felly gwnewch yn siŵr i ddod lawr i’w weld!

Yn ymuno a rhain mae’r hynod swynol FRANCIS REES. Band newydd gydag aelodau o Dywyn a Machynlleth ydynt, gan gynnwys eu prif gantores Beth Pugh.  Mi fydd Lo-Fi Synth Pop y grŵp yma yn siŵr o gyffwrdd a’ch teimladau, felly dewch lawr i gefnogi’r artistiaid lleol yma!

Gallwch weld yr holl gerddorion yma am ddim ond £3! 100 tocyn sydd ar gael yn unig felly archebu eich lle cyn gynted a phosib!

Cysylltwch â ni dros y ffon 01970 617998 neu ar e-bost post@aradgoch i archebu tocyn.

Mae’r noson yma yn bosib oherwydd arian grant Prosiect Arfor.  Diolch i Brosiect Arfor mae yna lawer mwy o gyfleoedd a gweithgareddau wedi eu trefnu yn y Fro Gymraeg yn y misoedd diwethaf!

*GIG DI-ALCOHOL. POBL 13+ OED YN CAEL MYNEDIAD I’R GIG*