Ar y 5ed o Fedi 2024, galwodd Cyngor Sir Ceredigion am enwebiadau ar gyfer cyfethol cynghorwyr i Gyngor Cymuned Llanfarian. Mae’r ward yn cynnwys Capel Seion, Rhydyfelin, Blaenplwyf, Llanfarian a’r ardaloedd gwledig cyfagos. Mae gan ymgeiswyr tan y 25ain o Fedi 2024 i ddangos diddordeb drwy gysylltu gyda’r Clerc ar y manylion isod.
Mae’r hysbysiad wedi ei eirio fel hyn: –
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Cymuned Llanfarian (Ward Llanbadarn y Creuddyn Isaf) yn bwriadu Cyfethol X aelod i lenwi’r lle gwag sydd yn bodoli ar gyfer Cynghorydd yn yng Nghymuned Llanfarian (Ward Llanbadarn y Creuddyn Isaf). Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cwrdd â’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad, yn ddinesydd yn un o aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd tramor cymwys; yn 18 oed neu’n hŷn; a rhaid cwrdd ag o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
- wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod, yn ystod y 12 mis diwethaf yn gyfan; neu
- wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn y gymuned a enwir uchod, yn ystod y 12 mis diwethaf; neu
- wedi byw yn y gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni, yn ystod y 12 mis diwethaf yn gyfan.
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â Chlerc y Cyngor Tref/Cymuned yn Fronfelen Farm, Chancery, Llanfarian, Aberystwyth, SY23 4DF erbyn 25/09/2024.
Felly, os ydych chi dros 18 mlwydd oed, beth am gymryd rhan yn eich cymuned? Mae’r Cyngor yn cwrdd unwaith y mis. Ewch amdani!