Cyfarfod cyhoeddus i drafod datblygiad tai

Gwrthwynebiad i ddatblygu safle Bodlondeb yn parhau

Bodlondeb2024

Bydd Cyngor Tref Aberystwyth yn trafod cais gan gwmni Wales & West i ddatblygu safle cartref Bodlondeb ar nos Lun, 2il o Fedi 2024 am 6.30 yr hwyr. Bydd y cyfarfod yn swyddfeydd Cyngor Tref Aberystwyth ar 11 Stryd y Popty. Bydd cyfle i gael mwy o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer y safle gan nodi unrhyw wrthwynebiad.

Asbri Planning Ltd sydd yn arwain y broses gyn-ymgeisio ynglŷn â’r gwaith dymchwel. Bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei chynnal ar 10fed Medi rhwng 14:00 a 19:00 yn yr Hwb, Penparcau lle bydd y cynigion ar gyfer y cynllun dymchwel yn cael eu harddangos a bydd aelodau o’r tîm dylunio ar gael i ateb unrhyw gwestiynau.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 20fed o Fedi 2024.

Dyma’r linc ar gyfer gwybodaeth

https://www.asbriplanning.co.uk/statutory-pre-application -ymgynghoriad/tir-yn-hen-bodlondeb-cartref-gofal-penparcau-abersytwyth-sy23-1sj

Dymchwel Cartref Bodlondeb

Anfonwch sylwadau at y cynghorwyr cyn y 23ain o Awst

Dweud eich dweud