Cwmni lleol yn sicrhau cytundeb HAHAV

LEB Construction Ltd wedi derbyn y cytundeb i addasu Plas Antaron

gan Tess Thorp
Leb-luke-baker-2
LEB-Luke-baker-

Mae HAHAV, elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion, wedi cyhoeddi enw’r cwmni fydd yn mynd ati i wneud y gwaith adnewyddu ar ei chanolfan Byw’n Dda. Mae LEB Construction Ltd wedi derbyn y cytundeb i addasu Plas Antaron, yr hen westy ar gyrion Aberystwyth, yn ganolfan bwrpasol i helpu pobl ar draws Ceredigion sy’n dioddef o salwch difrifol.

Bydd y gwaith adnewyddu yn dechrau ym mis Gorffennaf a bydd yn cael ei gyflawni fesul cam. Bydd y cam cyntaf, y gwaith strwythurol a’r gwaith ar y to i gefnogi datblygiad yr ystafell gelf amlbwrpas, i’w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae cadeirydd HAHAV, Gwerfyl Pierce Jones, wrth ei bodd mai cwmni lleol fydd ynghlwm â chyflawni prosiect mor bwysig:

“Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer HAHAV Ceredigion wrth i ni anelu at ddiwallu anghenion trigolion ar draws Ceredigion. Dyma’r unig sir yng Nghymru heb wasanaethau hosbis cydnabyddedig, ond mae’r galwadau ar wasanaethau ein gwirfoddolwyr yn cynyddu’n gyson.

“Ein dyhead yw datblygu canolfan a fydd yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol. Yn ein trafodaethau â LEB, maent yn gwerthfawrogi’r hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud ac yn awyddus i’n cynorthwyo i ddarparu adnodd o’r radd flaenaf.”

Bydd camau pellach yn cael eu rhoi ar waith y flwyddyn nesaf, yn ddibynnol ar gyrraedd targedau codi arian. I’r perwyl hwnnw rydym wedi lansio ymgyrch fawr i godi arian yn ddiweddar, a’n gobaith yw codi £200,000 yn lleol dros y 18 mis nesaf.

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr LEB, Luke Baker, yn edrych ymlaen at weithio gyda HAHAV Ceredigion ar y prosiect cyffrous hwn:

“Fel cwmni o Geredigion rydym yn awyddus i weithio gyda sefydliadau lleol i’w helpu i gyflawni eu dyheadau. Mae HAHAV yn darparu gwasanaethau y mae mawr eu hangen ar draws Ceredigion, ac mae’n bwysig bod gan eu gwirfoddolwyr ganolfan lle gallant gynnig amgylchedd cyfforddus o safon uchel i gleientiaid a’u teuluoedd.

“Rydyn ni ar daith gyda HAHAV ac yn ysu i ddechrau ar y gwaith.”

Oherwydd y gwaith ym Mhlas Antaron, bydd y staff a llawer o’r gweithgareddau a gynhelir yno yn symud i’r Morlan, yng nghanol tref Aberystwyth.

Rheolwr prosiect y gwaith ym Mhlas Antaron yw’r cynllunydd pensaernïol o Aberystwyth, Stuart Ball, sy’n gweld hwn yn ddatblygiad hollbwysig i Geredigion,

“Rydym yn bwriadu datblygu Plas Antaron fel adeilad all fod yn addas i gynnig ystod o wasanaethau. Mae’n brosiect cyffrous i fod yn rhan ohono. Ac ar ôl penodi cwmni i wneud y gwaith, rydym yn awyddus yn awr i roi cychwyn arni.”

Os hoffech gyfrannu i gefnogi HAHAV, neu os hoffech drefnu digwyddiad codi arian, neu os hoffech wirfoddoli, ewch i hahav.org.uk, ffoniwch 01970 611550, neu e-bostiwch: admin@hahav.org.uk .