Cwisio brwd yn Bow Street

Timau lleol yn mynd benben â’i gilydd

gan Anwen Pierce

Cafwyd noson hwyliog iawn yn Neuadd Rhydypennau, Bow Street, 12 Mawrth, pan aeth 8 tîm o bobl leol benben â’i gilydd mewn cwis a drefnwyd gan ganghennau lleol Plaid Cymru. Gareth William Jones oedd y cwisfeistr campus, a chafwyd rowndiau o bob math ganddo – cerddoriaeth, teledu, ffotograffau – ac un ‘Bendigedig’, sef rownd yn benodol ar ein haelod seneddol Ben Lake! Tîm y Llyfrbryfaid ddaeth i’r brig – llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!