Ym mis Medi cychwynnodd Deian Creunant, un o Ymddiriedolwyr elusen HAHAV Ceredigion ei her bersonol o redeg pedair ras mewn pedair wythnos i godi arian ac ymwybyddiaeth i’r elusen. Y ras gyntaf oedd Hanner Marathon Llyn Efyrnwy, “…ras hyfryd mewn lleoliad bendigedig.” medd Deian.
Yr ail ras oedd ras 10k Dale yn Sir Benfro, ond bu’n rhaid canslo hon yn anffodus oherwydd y tywydd gwael.
Nesaf oedd Hanner Marathon Caerdydd – ras brysur tu hwnt gyda dros 22,000 yn rhedeg. Yn ôl Deian roedd y gefnogaeth o gwmpas y cwrs yn anhygoel ac fe gadwodd y glaw i ffwrdd.
Ras Dau Gopa Aberystwyth oedd y drydedd ras. Rhedeg un copa, sef Craig Las ddwywaith. “Digwyddiad lleol hyfryd”, medd Deian.
Roedd ei ras olaf i gwblhau’r pedwarawd ddydd Sul diwethaf yn Llanwrtyd. Ras Goffa 12k Ron Skilton a’r un fwyaf mwdlyd iddo erioed gymryd rhan ynddi. Mae’n debyg mai dim ond hanner y stori mae’r llun olaf yn ei adrodd!
Hoffai Deian ddiolch yn fawr am bob anogaeth dros yr wythnosau diwethaf. Mae ei ymgyrch wedi llwyddo i godi dros £2,000 i HAHAV Ceredigion ac rydym ni fel elusen yn hynod o ddiolchgar iddo am ei ymdrech a’i ymroddiad.
Os ydych yn dymuno cyfrannu, bydd y ddolen isod ar agor am ychydig eto.
https://bit.ly/PedairMewnPedairDeianFourinFour
Sefydlwyd Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Ceredigion (sef HAHAV) yn 2014 gan grŵp o wirfoddolwyr, a hynny ar gyfer y gymuned leol yng Ngheredigion. Ymateb oedd hynny i’r angen oedd bron yn llethol am gymorth ymhlith pobl â salwch cronig sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu gofalwyr a’u teuluoedd. I ddechrau, dim ond yn y gymuned yr oedden ni’n rhoi’r cymorth. Fodd bynnag, daeth yn amlwg i ni fod rhai pobl eisiau rhywle lle gallan nhw ddod i gysylltiad ag eraill, cael cymorth gan bobl mewn sefyllfa debyg a chymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i wella ansawdd eu bywyd. Yn 2019 agorwyd ein Canolfan Byw’n Dda ym Mhlas Antaron, Aberystwyth. Dyw’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau ddim ar gyfer unrhyw gyflwr arbennig, er ein bod ni’n cynnal rhai gweithgareddau grŵp ar gyfer cyflyrau penodol.
Gwirfoddolwyr yw calon ein helusen o hyd. Maen nhw’n rhoi miloedd o oriau bob blwyddyn i gefnogi ein tîm bach o staff i gynnig gwasanaethau megis Cymorth yn y Cartref, Gwasanaethau Galar a Gweithgareddau Byw’n Dda yn ogystal â chreu incwm. Mae eu gwaith yn trawsnewid bywydau pobl. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cefnogi llawer o bobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd i wneud y gorau o’r amser gwerthfawr sydd gyda nhw ar ôl.