Corbisiero ’nôl fel rheolwr

Antonio Corbisiero yw rheolwr newydd tîm cyntaf dynion CPD Aberystwyth

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aberystwyth v Seintau Newydd 27/10/2024

Aber yn sgorio yn erbyn y Seintiau Newydd

Yn dilyn ymddiswyddiad Anthony Williams fel rheolwr ar ddechrau mis Hydref, mae cyfnod Dave Taylor fel rheolwr dros dro hefyd wedi dod i ben. Yr wythnos yma cyhoeddodd Aber mai Antonio Corbisiero fydd yn cymryd yr awenau’n llawn amser. Mae Corbisiero yn gyn-chwaraewr ac yn gyn-reolwr i Aber. Rheolodd y tîm yn ystod tymor 2021-22 pan orffennodd Aber yn wythfed yn y prif gynghrair. Bydd yn dechrau ar ei waith ar unwaith gyda’i gêm gyntaf oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ar y 27ain o Dachwedd.

Talcen caled sy’n gwynebu Corbisiero, gydag Aber yn brwydro yn erbyn Llansawel a Fflint tua gwaelod y gynghrair. Ond rwy’n siŵr y bydd yn edrych ymlaen at ei gêm gyntaf ar Goedlan y Parc yn erbyn Dinas Caerdydd yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG ar y degfed ar hugain o Dachwedd.

Lan a lawr oedd y canlyniadau yn ystod cyfnod Dave Taylor fel rheolwr dros dro. Enillodd Aber dwy gêm gynghrair ynghyd a buddugoliaeth yn erbyn Cei Connah yng Nghwpan Nathaniel MG. Ond hefyd fe gafwyd perfformiadau arbennig o siomedig yn erbyn Rhydaman yng Nghwpan Cymru JD ac yn y gynghrair yn erbyn Llansawel.

Dymuniadau gorau i Corbisiero a’r tîm. Edrychwn ymlaen at gyfnod mwy llewyrchus a chreadigol.

Dymuniadau gorau i Corbisiero a’r tîm. Edrychwn ymlaen at gyfnod mwy llewyrchus a chreadigol.

Dweud eich dweud