Codi Stêm

Tymor newydd ar Reilffordd Cwm Rheidol ac atyniad newydd

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Amgueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol
Agueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol

Car ar y cledrau!

Wrth i drên cynta’r tymor adael gorsaf Aberystwyth bore ‘ma (23/3/24) am 10.30, roedd cyfle i’r teithwyr fwynhau atyniad newydd yng Ngorsaf Aberystwyth. Heddiw oedd y tro cyntaf i’r cyhoedd gael ymweld â’r amgueddfa ysblennydd sy’n llawn dop o hen drenau stêm a hyd yn oed car sy’n gallu teithio ar y cledrau!

Mae mynediad am ddim i’r amgueddfa yn gynwysedig ym mhris y tocyn trên. Os nad ydych wedi teithio ar y trên ers sbel, dyma esgus perffaith i fwynhau’r daith a hel atgofion am deithio ar drenau stêm yn yr amgueddfa. Os am ymweld â’r amgueddfa yn unig, gellir prynu tocyn mynediad am £5 (£5.50 yn cynnwys Rhodd Cymorth).

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau agoriad yr amgueddfa ar ddiwrnod cyntaf y tymor teithio ac rwy’n siŵr y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf. Mae’r agoriad swyddogol i ddod ac mae adloniant amser cinio yn yr Amgueddfa eisoes yn cael ei hysbysebu ar gyfer Mai a Mehefin, gan gynnwys Iwcadwli.

Am fwy o fanylion, ewch i dudalen Facebook Rheilffordd Cwm Rheidol neu os am flas o’r daith ar y trên edrychwch ar y fideo canlynol a welwyd ar BroAber360: <https://broaber.360.cymru/2021/dewch-tren-bach-2/>