Clwb Rygbi Aberystwyth yn ennill gêm gyfeillgar

Mae’r dyfodol yn ddisglair – gyda’r eirth glas

Helen Davies
gan Helen Davies

Curodd Clwb Rygbi Aberystwyth (Adran 1 Gorllewin) Glwb Rygbi Trefynwy (Adran 1 Dwyrain) 26–21 mewn gêm gyfeillgar cyn y tymor (pedwar chwarter ugain munud), gan sgorio pedwar cais i dri’r ymwelwyr. Doedd hi ddim yn gêm hawdd, gyda’r gwrthwynebwyr yn dangos eu sgiliau mewn chwarae bywiog.

Fe wnaeth chwaraewyr ieuenctid Aber oedd yn cymryd eu lle yn y tîm cyntaf waith ardderchog. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad yr holl staff sy’n rhedeg system ieuenctid ragorol y clwb. Ar ddiwrnod braf, gydag ychydig o awel, roedd yr amodau’n ddelfrydol ar gyfer chwarae rygbi.

Roedd Aber ar yr ymosod yn gyflym, gyda sgrymio cadarn a gwaith y lein yn cadw’r chwarae yn ddwfn yn hanner Trefynwy. Yn erbyn rhediad y chwarae, ar ôl rhyng-gipio’r bêl, rhedodd Harry Whelan o Fynwy ar hyd y cae i sgorio cais a gafodd ei drosi. Ond daliodd Aber ati, ac yn dilyn chwarae da a chefnogaeth gan y cefnwr Leo Davies aeth Austin Ellis-Jones drosodd am gais a droswyd gan Dylan Benjamin.

Wedi i’r chwarae ailddechrau, roedd Trefynwy’n pwyso eto ac fe aethon nhw ar y blaen gyda chic gosb. Yn y diwedd torrodd y canolwr Iestyn Thomas drwy daclo gwael i sgorio cais. Parhaodd Aber i roi pwysau ar yr ymwelwyr, gyda gwaith gwych ar y lein gan Osian James. A llwyddodd Lee Evans i groesi o dan y pyst am gais a droswyd gan Benjamin. Er gwaethaf gwaith arwrol gan dîm Aber, gwelwyd rhyng-gipiad arall gan Dan White o Drefynwy yn ddwfn yn ei 22 metr ei hun a arweiniodd at gais arall.

Erbyn y pedwerydd chwarter, roedd Aber yn dechrau dangos eu cryfder mewn sgrymiau a ryciau, a gwelwyd Llewellyn Evans yn mynd am gais a droswyd gan Benjamin.

Bellach roedd y sgôr yn gyfartal, ar 21 yr un. Ond yn fuan roedd Aber yn ôl yn nhiriogaeth Trefynwy a’u prif linell yn rheoli’r meddiant. Wedi sgrym cadarn gan Aber ar hanner ffordd a rycio da, gwelwyd y cefnwyr yn cyfuno’n dda i roi Dafydd ap Hywel yn glir ar yr asgell i wibio drwodd i sgorio cais.

Gêm gyfeillgar ddifyr a brwd, gydag Aber yn rhoi cyfle i nifer o’r ieuenctid chwarae yn y tîm cyntaf. Cafwyd cyfuniad da iawn o chwaraewyr profiadol a thalent ifanc newydd, cyffrous ymlith y sgrym a’r cefnwyr. Mae’r dyfodol yn ddisglair!