Clwb Drama newydd i oedolion yn dechrau yn Aberystwyth

Bydd y 10 sesiwn cyntaf am ddim, yn dechrau ym mis Hydref

Arad Goch
gan Arad Goch
Clwb Drama Torri Tir

Bydd grŵp theatr newydd i oedolion yn agor eu drysau yng Nghanolfan Arad Goch ar yr 9fed o Hydref, ac mi fydd y 10 sesiwn cyntaf am ddim!

Ydych chi awydd datblygu eich sgiliau perfformio? Neu sgriptio efallai? Neu eisiau dysgu am y gwaith sy’n digwydd cefn llwyfan mewn cynhyrchiad? Efallai bod eich diddordeb mewn creu gwisgoedd, a phrops neu gynllunio set? Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw un o’r elfennau yma, yna dewch i Arad Goch i ddysgu mwy, i gymdeithasu a chael hwyl trwy ddrama. Does dim angen profiad blaenorol, dim ond digon o frwdfrydedd a meddwl agored am fyd theatr! Bydd y sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae croeso cynnes iawn i siaradwyr Cymraeg newydd ac mae’n gyfle perffaith i ymarfer a magu hyder i berfformio a chymdeithasu drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r grŵp yma yn bosib oherwydd arian grant Prosiect Arfor, ac mae Arad Goch ynghyd ag Arfor yn credu ei fod yn holl-bwysig i gael grŵp theatr i oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth.  Mae Prosiect Arfor yn barod wedi ariannu Cwrs Theatr Technegol yn ein canolfan a oedd yn llwyddiant ysgubol, felly mae’n braf gweld cefnogaeth i hybu creadigrwydd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngheredigion.

Mi fydd sesiwn blasu ar y 9fed o Hydref yng Nghanolfan Arad Goch am 7-9 yr hwyr, i bawb sydd efo diddordeb ddod am baned a sgwrs i drafod beth hoffwch chi gael allan o’r profiad!

Cysylltwch gyda gruff@aradgoch.org os oes gennych unrhyw gwestiwn, neu ffoniwch ni yma yn Arad Goch -01970 617998.

Dweud eich dweud