Chapeau Stevie Williams

Blwyddyn wych Stevie’n parhau yn y Tour of Britain

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans

Stevie Williams yn ennill y Tour of Britain

Llongyfarchiadau enfawr i Stevie Williams o Gapel Dewi ar ennill y Tour of Britain 2024. Y cyntaf o wledydd Prydain i ennill y ras ers 2016. Wedi 6 diwrnod/cymal o rasio caled, a ddechreuodd yn Kelso, llwyddodd Stevie i gadw ei fantais dros yr Albanwr Oscar Onley a ddaeth yn ail a’r Ffrancwr Tom Donnenwirth yn drydydd. Matevž Govekar o Slofenia a enillodd y wib ar ddiwedd y cymal olaf o Lowestoft i Felixstowe bnawn Sul.

Sicrhaodd ei fuddugoliaeth trwy ennill yr ail a’r trydydd cymal i adeiladu mantais o 16 eiliad yn y dosbarthiad cyffredinol. Dros y tri chymal olaf gwelwyd ei dîm Israel – Premier Tech yn gweithio’n galed i gau lawr ymosodiadau gan unigolion a thimau eraill i amddiffyn ei fantais. Yn wir camodd i’r podiwm dair gwaith yn Felixstowe – fel enillydd y ras, aelod o’r tîm buddugol ac fel y seiclwr cyntaf o wledydd Prydain yn y ras.

Uchafbwynt y ras i mi oedd gweld Stevie yn ennill y wib ar ddiwedd yr ail gymal yn erbyn y Ffrancwr a’r pencampwr byd Julian Alaphilippe.

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn i’w chofio i Stevie Williams ac rwy’n siŵr y bydd yn ysbrydoliaeth i seiclwyr ifanc yr ardal i gyrraedd y brig. Yn sicr mae Stevie’n haeddu ychydig o amser i hamddena pan ddaw’r tymor i ben a gobeithiwn y cawn y cyfle i’w longyfarch ar strydoedd Aberystwyth yn fuan.

Dweud eich dweud