Cered ar y Prom ’24

Doctor Cymraeg, Lo-Fi Jones, Bwca a llawer mwy

Steff Rees (Cered)
gan Steff Rees (Cered)

Dewch i fwynhau prynhawn llawn adloniant Cymraeg yn y Bandstand, Aberystwyth, ddydd Mercher, 31 Gorffennaf, gyda digwyddiad arbennig sydd wedi ei drefnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion

Fe fydd drysau ‘Cered ar y Prom’ yn agor am hanner dydd ac fe fydd llond llaw o stondinau a gweithgareddau yn rhedeg trwy’r prynhawn, gan gynnwys helfa drysor ar hyd Promenâd Aberystwyth, gweithdy Lego, cornel gemau bwrdd Cymraeg a heriau corfforol gan griw Chwaraeon a Hamdden y Mentrau Iaith.

Yn ogystal â hyn, fe fydd yna arlwy o berfformwyr a sesiynau yn cychwyn am 1 o’r gloch gyda sesiwn stori a chân Cymraeg i blant. Am 2 o’r gloch bydd sesiwn sgwrsio addas i ddysgwyr gyda’r ‘Doctor Cymraeg’ o Wrecsam sy’n adnabyddus oherwydd ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Am 3 o’r gloch fe fydd yr arlwy cerddorol yn cychwyn gyda pherfformiadau gan artistiaid a bandiau lleol, sef Rhiannon O’Connor, y gantores-gyfansoddwraig o Bontrhydfendigaid; Bwca, y rocars o Aberystwyth; a Lo-Fi Jones o Fachynlleth, enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin Eisteddfod 2023. Yn cloi’r ŵyl fechan hon bydd Iwcadwli, cerddorfa iwcalilis sydd wedi bod yn diddanu ymwelwyr yn y Bandstand yn rheolaidd dros y mis diwethaf.

Dywed Steff Rees trefnydd y digwyddiad, ar ran Cered:

‘Dyma brynhawn rhad ac am ddim llawn hwyl a sbri i bob oed yng nghanol y gwyliau ysgol fydd yn cynnig diddanwch i blant ac oedolion lleol, a hefyd yn agor y drws i iaith a diwylliant Cymru i’r rheiny fydd yn ymweld â Cheredigion dros y gwyliau.’

I ddysgu mwy, dilynwch Cered ar y cyfryngau cymdeithasol neu e-bostiwch steffan.rees@ceredigion.gov.uk.