Fel rhan o ddathliadau’r flwyddyn newydd Tsieineaidd yn Aberystwyth, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Ceredigion ddydd Sadwrn 25 Chwefror. Yn ogystal â dawnsio a chanu traddodiadol, cafwyd cyfle i ddysgu ychydig am farddoniaeth glasurol o Tsieina.
Roedd yr hyn a gyflwynwyd yn ffrwyth prosiect y bûm i, fel Bardd y Dref, yn ddigon ffodus i fod yn rhan ohono’n ddiweddar gyda disgyblion o Ysgol Penglais dan arweiniad eu hathrawes Lucy Huws. Gyda chymorth Xenydd, Dylan a Poppy, disgyblion sydd wrthi’n dysgu’r iaith Fandarin, deuthum i wybod am y tro cyntaf am gerddi rhyfeddol o gyfnod brenhinllin y Tang, sef rhwng y seithfed a’r ddegfed ganrif. Cerddi bychain twyllodrus o syml ydyn nhw, cyfres o ddarluniau o fyd natur sy, er hynny, yn cynnwys haenau dwfn o ystyr.
Er enghraifft, un gerdd enwog iawn a drafodwyd oedd ‘Afon dan eira’ gan Liu Zongyuan, pennill pedair llinell y ces i fy herio gan y disgyblion i’w chyfieithu i’r Gymraeg. Dyw’r pennill telyn a wnes i ddim yn dod yn agos at wneud teilyngdod â’r gerdd wreiddiol, ond fe ddylai roi – i rai sy, fel fi, ddim yn medru Mandarin – syniad o’r hyn a ganodd y bardd:
Mynyddoedd mud o adar mân,
A llwybrau lawer sy’n rhy lân,
A ’sgotwr a’i het ddail a’i glogyn
Ar y dŵr, ac eira’n disgyn.
Darlun bychan, byw – ond fe ddaw mwy i’r golwg o wybod fod y bardd, a fu am gyfnod yn was sifil llwyddiannus, wedi llunio’r gerdd ar ôl colli bri, pan oedd ar herw yn yr ucheldir ar ôl cael ei alltudio gan y llywodraeth.
Yn y digwyddiad yn Aber, darllenodd Xenydd gerdd Liu Zongyuan yn yr iaith wreiddiol a rhannu ychydig o’i hanes, a gwnaeth Dylan yr un fath gyda cherdd arall, y tro hwn gan y bardd Wang Wei. Ro’n i’n edmygu’n fawr eu gallu i wneud hynny i gyd yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Mandarin o flaen cynulleidfa amlieithog.
Yna daeth sypréis hyfryd – roedd y disgyblion wedi cyfieithu un o’m cerddi i’r iaith Fandarin. Fis Medi y llynedd, i nodi canmlwyddiant codi’r gofeb ryfel ar benrhyn y castell, lluniais gerdd ‘Y Gofeb’, a gellir clywed y gerdd yn cael ei llefaru ar fideo gwych a gynhyrchwyd gan Scott Waby. Roedd yn fraint fawr clywed fod fersiwn Mandarin o’r gerdd honno bellach wedi ei chreu ac, yn y digwyddiad ddydd Sadwrn, dangoswyd fersiwn newydd o’r fideo gyda’r geiriau wedi eu trosleisio gan yr Athro Xingguo Li.
Diolch yn fawr iawn iddo ef, i’r disgyblion ac, yn bennaf oll, i Lucy Huws am ddod â phawb ynghyd, gan wneud y cyfnewid diwylliannol gwerthfawr hwn yn bosib yn y lle cyntaf.