Cerdded Ymlaen!

Hwyl a Her Gwerfyl a Dathlu Gwirfoddolwyr

gan Tess Thorp

Er y glaw, cyfarfu tua 9 ohonom tu allan i siop HAHAV Ceredigion bore ’ma i roi hwb i Gwerfyl, Cadeirydd Bwrdd Ymddirideolwyr HAHAV ar ei sialens bersonol i gerdded 100 milltir yn ystod mis Mehefin. Roedd heddiw hefyd yn lansiad swyddogol i’n hymgyrch ariannol sylweddol i wella a datblygu ein gwasanaethau i’r dyfodol.

Gyda chanolfan newydd ar gyrion Aberystwyth a’r galw am ei gwasanaethau yn cynyddu ar draws y sir, y nod yw codi £200,000 yn y 18 mis nesaf.

Mae Gwerfyl ei hun yn arwain trwy esiampl trwy anelu at gerdded 100 milltir mewn mis ac yn gofyn am gefnogaeth nawdd ar hyd y daith.

Dywedodd Gwerfyl,

“Mae’r ffordd y mae HAHAV wedi datblygu ers ei sefydlu bron i ddegawd yn ôl yn dyst i ymroddiad gwirfoddolwyr di-ri, sydd wedi darparu gwasanaeth y mae mawr ei angen ar bobl ledled Ceredigion.

“Rydyn ni nawr yn wynebu sefyllfa lle mae angen i ni fuddsoddi yn ein seilwaith er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaethau hosbis yn y cartref y mae mawr eu hangen. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at ddatblygu Plas Antaron fel Canolfan Byw yn Dda ac ehangu ein gwasanaethau gwirfoddol ar draws Ceredigion.”

Gwirfoddolwyr yw calon elusen HAHAV Ceredigion Maen nhw’n rhoi miloedd o oriau bob blwyddyn i gefnogi ein tîm bach o staff i gynnig gwasanaethau ac i greu incwm. Mae eu gwaith yn trawsnewid bywydau pobl. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cefnogi llawer o bobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd i wneud y gorau o’r amser gwerthfawr sydd gyda nhw ar ôl.

Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr Cenedlaethol, cyfle i ddathlu’r cyfraniad hynod werthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas. Mae HAHAV wedi bod yn sefydliad a arweinir gan wirfoddolwyr ers y cychwyn ac maent yn hanfodol i’w waith.

Dyma ddolen i gefnogi ymgyrch Gwerfyl https://bit.ly/CyfrannuiGwerfylDonatetoGwerfyl

Os hoffech gefnogi gwaith yr elusen, wirfoddoli neu fynd ati i drefnu digwyddiad eich hun – caiff pob ceiniog ei werthfawrogi – ymwelwch â’r wefan – www.hahav.org.uk neu ebostiwch admin@hahav.org.uk