Cerdd Dant a Fi

Rocet Arwel Jones sy’n ystyried sut ar wyneb daear mai fo ydy Cadeirydd Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth

Haf-Morris-3
462567820_571495845567086

“Ydych chi wedi cael tocyn ar gyfer Cyngerdd Cyhoeddi, Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a’r Fro nos Sadwrn? Naddo? Ewch amdani a pheidiwch â cholli’r cyfle i weld Linda Griffiths, yr Ensemble Telyn, Dawnswyr Seithenyn, nac wrth gwrs, Cantata’r Geni. Un perfformiad, ac un yn unig fydd. Peidiwch â difaru!”

Ond pam mai fi o bawb sy’n eich annog i wneud hyn? Fydd unrhyw un sy’n fy adnabod i yn gwybod nad ydw i’n gerddor nac yn llawer iawn o ganwr chwaith. Ond dyma fi, yn edrych ymlaen yn eiddgar at lai na blwyddyn (erbyn hyn) o weithgaredd.

Boring. Ceidwadol. Hen a hen-ffasiwn. Dyna ydy Cerdd Dant a phopeth sydd o’i gwmpas o yn de?!

Na!

I fynd yn ôl i’r dechreuad, ges i fy addysg uwchradd yn Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch. Ac os oeddech chi’n sefyll yn llonydd digon hir, fe fyddai’r anfarwol Haf Morris wedi’ch gosod chi mewn rhes a chreu parti. Felly dyna fy nghyflwyniad cyntaf i gerdd dant.

Wedyn, ddes i i Brifysgol Aberystwyth ac eto, os oedd gennych chi owns o ddiddordeb yn y pethe, fe fyddech chi mewn côr. A dyna fy ail gyflwyniad i’r byd yma, sef Bethan Bryn.

Bethan Bryn a Haf Morris. Allai’r un o’r ddwy fod ymhellach o’r ddelwedd la-di-da Laura Ashley, Glenys a Rhishart o Gerdd Dant. I mi, nhw oedd Cerdd Dant, ac roeddwn i’n meddwl fod gweddill y cerdd dantwyr yn bethau digon tebyg.

Bethan Bryn yn dawnsio

A dwi’n tueddu i weld y rebel ynddyn nhw byth ers hynny. Canu cân ar diwn un arall er mwyn rhoi’r sylw gorau i’r geiriau – rock on! A dyna i chi hyd a lled fy nealltwriaeth i.

Ac mae’r elfen yna o osod y geiriau yn gyntaf yn anhygoel. Mae tôn dda yn gallu gadael y geiriau ar ôl, dydy tôn dda ddim angen geiriau hyd yn oed. Ond y geiriau sy’n dod gyntaf gyda cherdd dant. O’n i’n gwrando ar yr unawdwyr yn canu ‘Pam fod yr eira yn wyn’ (Dafydd Iwan) yn yr Wyddgrug, yn ddiweddar. Geiriau mor, mor gyfarwydd, a dyma’r gosodiad yma yn eu gyrru nhw i le newydd, nes mod i’n teimlo nad oeddwn i wedi eu clywed nhw erioed o’r blaen.

Mae o hefyd yn ddatganiad gwleidyddol. Os eith y Gymraeg dan y don – a chyda lwc ddigwyddith o byth – y ddau beth fydd yn mynd gyda hi fydd y gynghanedd a cherdd dant. Fydd pobl eraill yn sgwennu nofelau a barddoniaeth, canu opera, chwarae rygbi a phêl-droed, yn actio, yn paentio ac yn dawnsio– ond fydd neb yn y byd i gyd yn canu cerdd dant nac yn cynganeddu.

Felly ddylen ni fod allan ar y strydoedd dros Gerdd Dant. Yes Cymru? Yes Cerdd Dant!!!

Felly am y rhesymau yna i gyd – dwi’n falch fod ‘pobl cerdd dant’ wedi bodloni i’r creadur di-glem yma fod yn rhan o’r hwyl!

Nes i sôn am y cyngerdd cyhoeddi? Dewch draw. Peidiwch cael eich siomi. Ac os nad ydych chi’n ffan, maen nhw’n dweud fod gwneud rhywbeth sy’n codi ofn arnoch chi o dro i dro, yn dda i chi … felly wela’i chi i gyd yno. San Mihangel, Aberystwyth, 7:30, nos Sadwrn. 

Dweud eich dweud