Mae’r gohebwyr wedi danfon eu newyddion a’u lluniau a nawr mae’r golygyddion wrthi’n ddiwyd yn paratoi’r cynnwys yn barod i’w yrru at y dylunydd.
Ydy, mae’n wythnos gyffrous wrth i ni baratoi i gyhoeddi rhifyn 500 ein papur bro.
1978 oedd hi pan ddaeth criw bychan at ei gilydd i drafod sefydlu papur bro i wasanaethu’r ardal. Pa ardal yw honno? Wel, dyma hi fel y disgrifiwyd hi yn rhifyn 1: Cwm Ystwyth a Thrisant yn y gogledd i lawr i Gwm Wyre, Llanrhystud yn y de a Llanfarian ar yr arfordir i mewn hyd at Lanafan.
J.R. Evans, Llanilar oedd yn gyfrifol am yr enw Y DDOLEN ac yn wir mae wedi bod yn ddolen bwysig rhwng pentrefi’r ardal ar hyd y degawdau.
Er bod diwyg y papur wedi newid tipyn ar hyd y pum cant o rifynnau, dyw ambell neges yn newid dim. Ar dudalen flaen rhifyn 1 mae yna frawddeg yn cymell trigolion yr ardal i yrru llythyrau, lluniau, erthyglau a newyddion at y golygyddion.
Mae’r golygyddion presennol yn parhau i alw ar y bobl leol i’n cynorthwyo i lenwi’r tudalennau’n fisol a rhaid canmol y gefnogaeth rydym yn ei derbyn. Does braidd byth drafferth i lenwi o leiaf 24 tudalen gyda newyddion ein bro. Roedd rhifyn 499 yn 32 tudalen ac yn llawn dop o luniau a hanesion difyr o bob cwr o’r ardal.
Pobl yw’r papur oherwydd heb fwrlwm gweithgarwch ein cymdeithasau amrywiol, ein hysgolion, ein cymunedau, ni fyddai cynnwys i’r papur. Papur gan y bobl leol i’r bobl leol yw’r DDOLEN a phob un cyfraniad yn werthfawr.
Ffôl fyddai dechrau enwi unigolion ond wrth ddarllen drwy rifyn 1, tynnodd enw un gohebydd ein sylw! Am ba reswm? Wel oherwydd bydd ei henw yn ymddangos fel gohebydd yn rhifyn 500 hefyd. Cyfraniad anhygoel gan Alwena Richards, Llanafan.
Yn y galeri, fe welwch glawr rhifyn 1, 100, 200, 300 a 400. Sylwch, roedd clawr lliw i rifyn 400 ond doedd y papur bryd hynny heb fyd yn gyfan gwbl lliw.
Tybed beth fydd ar glawr rhifyn 500? Mae’n gyfrinach ond rydym wedi gofyn i Rhys Pugh, Talwrn Coch i ddylunio clawr arbennig i ni sy’n cwmpasu pentrefi a chynnwys y papur! Yn bendant mi fydd yn wahanol i unrhyw glawr blaenorol sydd wedi bod a gobeithio byddwch yn cytuno gyda ni ei fod yn deyrnged addas i’r garreg filltir nodedig hon. Ce’wch allan i brynu’r papur pan fydd yn glanio yn y siopau penwythnos nesaf.
Beth am ymuno gyda ni brynhawn Sadwrn yma yn Neuadd Llanafan i fwynhau te prynhawn ac adloniant wrth i ni ddathlu cyhoeddi rhifyn 500? Mae pris tocyn yn £15 sy’n cynnwys te blasus wedi ei baratoi gan Beca James. Cysylltwch gyda ni drwy e-bost, os hoffech archebu tocyn. Dewch i ddathlu.