Canu mawr ym Mhenparcau!

Cyngerdd i godi arian i Ward Meurig Ysbyty Bronglais

gan Catrin Pugh-Jones
IMG-20240615-WA0007

Cor Ysgol Llwyn yr Eos, Penparcau ynghyd a Mrs Pugh-Jones.

Roedd môr o ganu ym Mhenparcau ar 15 Mehefin wrth i Ysgol Llwyn yr Eos a Sgarmes ddiddanu torf o ffrindiau yn y Neuadd Goffa er mwyn codi arian i Ward Meurig Ysbyty Bronglais.

Ar ôl wythnos o ymarfer yn ystod amseroedd chwarae daeth y côr ynghyd i ganu amrywiaeth o ganeuon, rhai Cymraeg a Saesneg, rhai o’r gyngerdd ‘A Lad in Penparcau’, a chan Parti canu Eisteddfod yr Urdd. Cawsom hefyd unigolyn yn chwarae’r clarinét yn arbennig o dda.

Bore llwyddiannus a rwy’n siŵr bod swm sylweddol wedi ei godi ar gyfer y ward. Diolch i Megan am y gwahoddiad a diolch i Sgarmes am ymuno i ganu’r gân olaf ‘Sing’ gyda ni. Profiad anhygoel i’r plant gael canu gyda chôr profiadol a phwerus. Profiad a fydd yn aros yn y cof.

Hoffai’r plant ddiolch am y ddiod a’r cacennau blasus. Roedd yr eisin pinc yn hit mawr ymysg y plant!