gan
Huw Llywelyn Evans
![Stevie-Williams](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2024/01/Stevie-Williams-Photo-2023-640x396.jpg?32)
Llongyfarchiadau i’r beiciwr lleol Stevie Williams ar ennill y Santos Tour Down Under o gwmpas ardal Adelaide.
Ar gychwyn y cymal olaf, roedd e’n gyfartal ar amser gyda Oscar Onley (dsm-firmenich PostNL). Ond doedd dim yn mynd i atal Stevie Williams rhag ennill. Gyda 250m i fynd, dyma Stevie yn gwibio am y llinell derfyn ar Mount Lofty i ennill y cymal a’r ras yn ei gyfanrwydd. Tipyn o gamp mewn ras oedd yn rhan o gyfres y “World Tour” ac yn cynnwys enwau cyfarwydd iawn fel Julian Alaphilippe a Simon Yates.
Gwyliwch y diweddglo cyffrous Santos Tour Down Under