Buddugoliaeth yn sicrhau lle Aber yn Uwch Gynghrair Cymru am dymor arall

Aberystwyth 3 – 0 Pontypridd 21/04/2024

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Louis Bradford

Lois Bradford yn rhoi Aber ar y blaen.

Aberystwyth v Pontypridd

Blerwch yn amddiffyn Pontypridd cyn i Steff Davies sgorio.

Jonathan Evans

Jonathan Evans yn sgorio’r trydydd.

Anthony-Williams

Rheolwr Aberystwyth, Anthony Williams, yn cael ei holi wedi’r gêm.

Unwaith eto eleni roedd dyfodol Aber yn yr Uwch Gynghrair Cymru JD yn y fantol ar ddiwrnod olaf y tymor. Daeth torf o dros 800 i wylio’r ddrama ac yn gwybod y byddai buddugoliaeth yn sicrhau mae Pontypridd a Bae Colwyn fyddai’n disgyn.

Dechreuodd yr hanner cyntaf mewn modd digon cyfarwydd i’r cefnogwyr gyda’r gwrthwynebwyr yn cael y rhan fwyaf o’r meddiant ag Aber yn gwrthymosod neu’n dibynnu ar giciau gosod i greu cyfleon. Er yr holl feddiant, prin iawn oedd gwir gyfleon Pontypridd gyda Jones yn y gôl i Aber yn casglu’r croesiadau ac ambell ergyd yn ddigon didrafferth. Felly y bu am ran fwyaf o’r hanner cyntaf.

Wrth i’r gêm ymlwybro tua hanner amser yn ddi-sgôr, enillodd Aber gic gornel. Crymanodd Canavan y gic  tua’r canol a chododd Louis Bradford yn uwch na neb a phenio’r bêl oddi ar y postyn i’r rhwyd. Gôl gan y cawr o amddiffynnwr yn lleddfu nerfau cefnogwyr Aber wedi 37munud. Prin oedd ymateb Pontypridd gyda’r ymosodiadau yn methu hollti amddiffyn disgybledig Aber. Felly gôl i ddim i Aber ar yr hanner.

Cafodd Aber ddechreuad addawol i’r ail hanner gydag amddiffyn Pontypridd dan bwysau yn dilyn cyfres o giciau cornel. Wedi 55 munud dyma Kirkman yn cymryd y gic gornel i’r canol. Blerwch yn amddiffyn Pontypridd ac ergydiodd Steff Davies tua’r gôl. Nododd y dyfarnwr fod y bêl wedi croesi’r llinell a mawr oedd y dathlu a’r rhyddhad ac roedd dyfodol Aber yn yr Uwch Gynghrair yn edrych yn llawer sicrach.

Daeth yr hoelen olaf yn arch Pontypridd wedi 89 munud. Symudiad gorau’r gêm heb os. Ennillodd Bradford y bêl yn yr amddiffyn i ddechrau’r gwrthymosodiad. Yna Darlington i Lewis yn brasgamu lan y cae. Derbyniodd Darlington y bêl nôl a chroesodd yn gelfydd gydag ochr ei droed i Jonathan Evans ergydio nôl ar draws y gôl ac i gefn y rhwyd.  Am gôl i gloi’r tymor a sicrhau bydd cyfnod di-dor Aber yn Uwch Gynghrair Cymru’n parhau.

Uchafbwyntiau Sgorio: https://www.youtube.com/watch?v=icDH2xuX4Dw

Dweud eich dweud