Buddugoliaeth pwynt bonws i dîm gwydn Aberystwyth

Aberystwyth RFC 29 Waunarlwydd RFC 14

Helen Davies
gan Helen Davies

Aberystwyth, Ceredigion, Wales 19 October 2024: League game between Aberystwyth RFC 1st Team and Waunarlwydd RFC 1st Team at Plascrug, on the 19th October 2024 Score 29 -14 . (Pic by Colin Ewart/Pitchsideimages)

Llwyddodd Clwb Rygbi Aberystwyth i guro Clwb Rygbi Waunarlwydd 29 – 14 yn eu gêm Orllewinol Cynghrair Cenedlaethol Admiral 1 yng Nghae Plascrug mewn gêm hynod o gystadleuol. Cyfrannodd y ddwy ochr at gêm wych i’w gwylio, Aber yn sgorio pum cais gyda pherfformiad cryf yn yr ail hanner i ennill uchafswm o bwyntiau.

Ar brynhawn heulog braf gydag awel ysgafn ac amodau tir meddal, cafwyd perfformiad tîm cryf arall gan Aber. Ciciodd Waunarlwydd a methu cic gosb gynnar am bwyntiau. Roedd y ddwy ochr yn cicio bocs o waelod y ryciau, yn ceisio ennill tiriogaeth, a chiciwyd cosbau i gyffwrdd a leinwyr yn cael eu chwalu ond heb unrhyw fantais gynnar amlwg i’r naill ochr na’r llall.

Roedd sgrym Aber yn gweithio’n dda ac roedd symudiadau da gan y cefnwyr yn gwthio’r chwarae yn agos at linell gais yr ymwelwyr. Wedi ryc 5 metr allan, sgoriodd Lee Evans o Aber gais heb ei drosi. Casglwyd yr ail gychwyn yn gyflym gan Aber a toriad gan Iestyn Thomas a Dafydd Llŷr Hywel yn ryddhau’r cefnwr Harri Gwynn Jones i sgorio cais a droswyd gan Carwyn Evans.

Roedd yr ymwelwyr yn symud unrhyw bêl ar hyd eu tri chwarter ar bob cyfle, ac o linell 10 metr allan o linell gais Aber, sgoriodd y bachwr Andrew Lloyd gais a droswyd gan Joel Matuschke. Llifodd y gêm heb unrhyw dîm yn dominyddu’n diriogaethol, tan i gic yn erbyn y tîm cartref ganiatáu i’r ymwelwyr chwarae’n ddwfn yn 22 medr Aber. Arweiniodd sgarmes a ryciau at ganolwr Waunarlwydd Kieran Lewis yn sgorio cais wedi’i drosi.

Sgôr hanner amser: Aberystwyth 12 Waunarlwydd 14

Bu’n rhaid i Aber amddiffyn eu llinell gais yn dda o’r gic gyntaf. Roedd sgrym y tîm cartref bellach yn rhoi rhywfaint o bwysau ar bac yr ymwelwyr, gan roi llwyfan i gicio cosb dda gan y maswr Tommy Sandford i leddfu unrhyw berygl. Roedd Aber yn dewis sgrymiau cosb i ennill tiriogaeth. Chwarae da gan bac Aber yn y chwarae rhydd i fyny’r cae, gyda’r blaenwyr yn torri llinellau amddiffynnol sawl gwaith, gan arwain at y capten Charles Thomas yn rhuthro drosodd am gais heb ei drosi o 15 metr allan.

Roedd sgrym Aber yn rhoi llwyfan cadarn a chiciau cosb a throeon trwsiadus y llinell yn gweld symudiad llyfn gan y cefnwyr ac asgellwr Aber Ben Jones yn sgorio cais pwynt bonws heb ei drosi. Parhaodd Waunarlwydd i chwarae rygbi eang, ond roedd y tîm cartref yn gorffen yn gryfach gyda gwaith amddiffynnol cadarn ac ar y droed flaen mewn chwarae agored. Daeth y sgôr terfynol gan Aber yn chwalu symudiad gan yr ymwelwyr a Jac Jones yn rhyddhau Carwyn Evans i sgorio cais a droswyd ganddo hefyd.

Gêm rygbi hynod ddifyr a’r ddwy ochr wedi cyfrannu ati.  Rhoddod ffitrwydd a sgîl Aber yn y ryciau a sgrymiau lwyfan yn yr ail hanner i’r cefnwyr ddisgleirio.