Llwyddodd Clwb Rygbi Aberystwyth i guro Clwb Rygbi Sanclêr 43–16 yn eu gêm Cynghrair 1 Gorllewin yng Nghae Plascrug ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd. Ar ôl hanner cyntaf o frwydro’n agos, sgoriodd Aber saith cais yn yr ail hanner am fuddugoliaeth swmpus.
Ar ddiwrnod cymylog, ag ychydig o awel ar draws y cae, cafodd Aber drafferth i ennill rhythm a momentwm yn yr hanner cyntaf, gan fethu trosi mantais diriogaethol gynnar yn bwyntiau – hanner cyntaf agos gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r timau.
Dechreuodd Aber yr ail hanner gyda mwy o bwrpas, ac o sgrym a gwaith ryc da, llwyddodd Carwyn Evans i sgorio cais a’i drosi.
Roedd Aber yn defnyddio’u blaenwyr yn dda i ennill tir o’u ryciau. Torrodd Lee Evans drwodd gan fwydo’r bêl i Charles Thomas, a sgoriodd gais a droswyd gan Carwyn Evans.
Ymatebodd Sanclêr yn gyflym, gyda’r canolwr Aled Owens yn croesi am gais. Ac yn dilyn cic gosb i’r ymwelwyr, dim ond un sgôr oedd rhwng y ddau dîm.
Yna, yn dilyn gwaith ardderchog gan fachwr Aber, Iestyn Thomas, sgoriodd yr asgellwr Ben Jones a Carwyn Evans gais yr un.
Roedd Aber bellach yn rhemp, a’r ymwelwyr yn flinedig. Gwelwyd Tommy Sandford yn sgorio cais, a droswyd gan Dylan Benjamin, ac yna Harri Gwynn Jones yn sgorio’r cais olaf.
Diwedd syfrdanol i gêm o ddau hanner, gydag Aber yn chwarae rygbi gwefreiddiol yn yr ail hanner. Cafwyd ymdrech wych gan y tîm ifanc i gyd, yn cynnwys Lee Evans, seren y gêm.