Brwydro dros achub Cartref Tregerddan

Cyfarfod brwd yn Bow Street

gan Anwen Pierce

Daeth dros 60 o bobl ynghyd yn Neuadd Rhydypennau, 21 Mai, i drafod sefyllfa Cartref Tregerddan, wedi i’r Cyngor Sir gyhoeddi y gallai’r cartref preswyl gau yn y dyfodol agos, gan symud y preswylwyr i Gartref Hafan y Waun yn Aberystwyth. Y cynghorydd lleol Paul Hinge lywiodd y cyfarfod, a chafwyd ymatebion cryf a theimladwy gan nifer o’r gynulleidfa. Pwysleisiwyd rôl ganolog y Cartref yn y gymuned, pwysigrwydd y cyswllt agos sydd gan y preswylwyr a’u teuluoedd â’r pentref, a gwaith diflino gwirfoddolwyr Ffrindiau Cartref Tregerddan. Yn gefndir i hyn i gyd y mae’r ffaith fod poblogaeth y sir yn heneiddio, ac y bydd mwy o alw am ofal arbenigol yn y dyfodol, ynghyd â staff sydd wedi’u hyfforddi. Mae’n amlwg fod darpariaeth leol ar gyfer pobl hŷn yn bwnc llosg, a siaradodd nifer o’r galon wrth ofidio’n fawr am y sefyllfa bresennol.

Mae copïau o’r papur ymgynghorol ar gael yn llyfrgell Aberystwyth ac ar-lein. Anogodd Paul Hinge y gynulleidfa i ymateb i’r papur mewn da bryd (15 Gorffennaf yw’r dyddiad cau). Daeth y cyfarfod i ben gyda phleidlais unfrydol dros frwydro i achub Cartref Tregerddan; bydd y stori hon yn sicr o ddatblygu dros yr wythnosau nesaf.