Nos Fawrth, 3 Rhagfyr, aeth aelodau Merched y Wawr Rhydypennau draw i dafarn y Rhydypennau ar gyfer eu dathliad Nadolig.
Ar ôl mwynhau’r wledd a ddarparwyd gan y staff caredig, croesawodd Gillian Saunders Jones, Llywydd y gangen, y wraig wadd, sef Lowri Haf Cooke.
Yn ystod y flwyddyn, bu Lowri wrthi’n ddiwyd yn casglu cyfraniadau gan 24 o bobl adnabyddus ledled Cymru ar gyfer ei chyfrol Amser Nadolig.
Eglurodd Lowri fod y gyfrol yn gyfuniad o atgofion, ffotograffau a ryseitiau, wrth i’r cyfranwyr ein tywys i hud a lledrith y Nadolig drwy gyflwyno’r hyn mae’r ŵyl yn ei olygu iddyn nhw. Fel calendr Adfent, mae pob cyfraniad yn agor ffenest fach ar y tymor arbennig hwn.
‘Creu atgofion yw’r Nadolig, a’r anrheg fwyaf yw amser’, yn ôl broliant y gyfrol – a chafwyd noson i’w chofio yng nghwmni’r awdures amldalentog ac aelodau’r gangen.
Cyhoeddir Amser Nadolig (gol. Lowri Haf Cooke) gan Sebra; pris £19.99.