Sefydlwyd yr elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion, HAHAV, yn 2015 ac mae ei chadeirydd ysbrydoledig ac un o’i sefydlwyr gwreiddiol wedi penderfynu mai nawr yw’r amser i roi’r gorau i’w rôl fel cadeirydd.
Mae Dr Alan Axford wedi llywio HAHAV ers ei sefydlu bron i ddegawd yn ôl ac, o dan ei arweiniad, mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth a bellach yn darparu gwasanaethau amhrisiadwy i bobl ledled Ceredigion.
Yn dilyn gyrfa ddisglair mewn meddygaeth gan gynnwys 12 mlynedd fel Cyfarwyddwr Meddygol ysbyty Bronglais a chael yr OBE am wasanaethau i feddygaeth yng Nghymru, doedd dim llaesu dwylo ar ôl ymddeol fel yr eglura Alan,
“Roeddwn bob amser yn teimlo’n flin nad oedd gan Geredigion hosbis bwrpasol, yr unig sir yng Nghymru heb un. Roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r ymroddiad sydd gennym yn y sir o safbwynt gwirfoddolwyr, ac ar ôl gweithio gydag eraill i sefydlu HAHAV, roeddem i gyd yn argyhoeddedig byddai’r elusen yn cael ei harwain gan wirfoddolwyr.
“Rwyf yn falch iawn â’r modd y mae popeth wedi datblygu, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf gyda phryniant Plas Antaron a mwy o wirfoddolwyr yn gweithio ar bob lefel. Nid mudiad un person yw hwn ac mae arnaf ddyled fawr i’m cyd-aelodau ar y Bwrdd, yr holl wirfoddolwyr a’r staff sydd wedi rhoi cymaint i’r elusen.
“Rwy’n drist wrth gamu o’r neilltu ond rwy’n credu mai nawr yw’r amser iawn, wrth i ni edrych ymlaen at y bennod gyffrous nesaf yn hanes HAHAV.”
Ychwanegodd y cadeirydd newydd Gwerfyl Pierce Jones,
“Pan fydd unrhyw un yn sôn am HAHAV, mae enw Alan Axford fel arfer yn cael ei grybwyll yn yr un gwynt. Mae arnom ddyled enfawr iddo ac mae’n bleser gennyf ddweud bod y Bwrdd wedi cytuno’n unfrydol i gadarnhau y bydd bellach yn Llywydd Anrhydeddus yr elusen.
“Rwy’n hyderus y bydd yn parhau i fod yn llysgennad i HAHAV a bydd ei gefnogaeth a’i arweiniad yn parhau i fod yn amhrisiadwy i mi ac i eraill. Rwy’n gobeithio y gallwn nawr barhau i adeiladu ar ei etifeddiaeth wrth i ni ehangu ein gwasanaethau a gwella ein cyfleusterau yn y blynyddoedd i ddod.”
Os hoffech wirfoddoli gyda HAHAV, cysylltwch â ni ac i gael rhagor o wybodaeth am HAHAV, a gwasanaethau’r elusen ewch i hahav.org.uk, ffoniwch 01970 611550, neu e-bostiwch: hester.thorp@hahav.org.uk.