Aberystwyth 0 – 1 Rhydaman (19/10/24)

Aber allan o Gwpan Cymru wedi perfformiad siomedig

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aberystwyth v Rhydaman
Rhif 8, Iwan Lewis, Aberystwyth

Iwan Lewis, Aberystwyth

Wedi perfformiad gorau‘r tymor gan Aber yn sicrhau buddugoliaeth oddi cartref o bedair gôl i un yn erbyn Caernarfon ganol wythnos, roedd gobeithion cefnogwyr Aber yn uchel am fuddugoliaeth arall heddiw yng Nghwpan Cymru JD. Cyfle da i ennill a chodi hyder y chwaraewyr gan fod Rhydaman yn unfed ar ddeg yng Nghynghrair JD Cymru’r De, sef adran yn is nag Aberystwyth.

Ond cafodd Aber gryn sioc yn gynnar iawn wedi i ergyd Callum Thomas, o ymyl y cwrt cosbi, roi Rhydaman ar y blaen wedi dim ond 7 munud. Roedd carfan gref o gefnogwyr Rhydaman wrth ei bodd yn yn canu yn Eisteddle Dias.

Er i Aber gael digon o feddiant, roedd yn aml yn cael ei wastraffu gyda pheli hir. Roedd amddiffyn Rhydaman yn gryf yn yr awyr ac yn ennill y frwydr ffisegol gyda’u taclo cadarn. Prin oedd y cyfleon clir i Aber ac fe gafodd golwr Rhydaman brynhawn gymharol gyfforddus.

Roedd rhaid aros tan y chwarter olaf cyn i Aberystwyth ddangos fwy o ddwyster yn ei chwarae a chynyddu’r pwysau ar gôl Rhydaman.  Daeth Iwan Lewis ymlaen fel eilydd a chryfhau canol y cae Aber. Cafwyd sawl cic osod ac roedd Louis Bradford yn ennill ambell i beniad ond dim cyfleon clir. Felly buddugoliaeth haeddiannol i Rydaman ac ymlaen a nhw i’r rownd nesaf.

Y cwestiwn mawr – be nesa’ i Aber? Does dim son pwy fydd y rheolwr parhaol newydd yn dilyn ymddiswyddiad Anthony Williams oddeutu pythefnos yn ôl. Ysgwn i a yw Arthur Picton ar gael? Ac yn sicr bydd y gêm nesaf ar Goedlan y Parc yn anoddach fyth yn erbyn y Seintiau Newydd, pencampwyr presennol Cynghrair Cymru JD. Ond rhaid cofio fod Aber wedi gwynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ond wedi sicrhau ei lle yn yr Uwch Gynghrair yn y pen draw. Felly, daliwch i gredu a dewch draw i gefnogi Aber ar Goedlan y Parc. “C’mon Midffîld”

Dweud eich dweud