Ymgyrch Cefnogi Lleol Aberystwyth

Clwb Busnes Aberystwyth yn lawnsio’r ymgyrch

Kerry Ferguson
gan Kerry Ferguson
358831077_1015470299444360

Mae Clwb Busnes Aberystwyth wedi bod yn brysur, ar ôl ennill arian Cynnal y Cardi yn ddiweddar ar greu a lansio ymgyrch Cefnogi Lleol i ardal Aberystwyth.

Beth yw’r ymgyrch?

358831077_1015470299444360

Yn hytrach ’na ‘siopa yn lleol’, roedd y Clwb Busnes yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth ar ‘cefnogi lleol’. Dechreuodd yr ymgyrch cyn y Nadolig, wrth i’r Clwb Busnes gael ei lansio ar ei newydd wedd. Erbyn hyn, rydym wedi bod yn llwyddiannus gyda cais grant gan Cynnal y Cardi, ac wedi bod yn brysur iawn yn dylunio a datblygu!

  • Sticeri ffenestr hyfryd, yn Cefnogi’n Lleol
  • Posteri (haf, a gaeaf) yn codi ymwybyddiaeth
  • Bolardiau ar gyfer strydoedd y dref (yn cynnwys rhai gaeaf)
  • Baneri i hyrwyddo’r ymgyrch
  • Comisiynu dau fideo ar gyfer hyrwyddo’r dref

Mi fydd mwy yn digwydd dros y misoedd nesaf, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb rhoi help llaw. Cysylltwch â  Kerry neu Becky ar info@aberystwythbusinessclub.com.