Mr Urdd yn rhan o’r Parêd yn Aber!

Elan Mabbutt yn mynd i hwyl yr ŵyl yng ngwisg y cymeriad hoffus

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins

Bydd yr enwog Mr Urdd yn rhan o ddathliadau Parêd Gŵyl Dewi eleni … neu, a ddylsem ddweud ‘Miss Urdd’?

Bydd y cymeriad hoffus trionglog yn ei goch, gwyn a gwyrdd “yn canu cân i holl ieuenctid Cymru” – a rhai cryn dipyn yn hŷn na hynny – ddydd Sadwrn yma! Yn gwisgo siwt Mr Urdd bydd Elan Mabbutt o Lanbadarn Fawr. Mae Elan yn ddisgybl yn Ysgol Penweddig ac yn aelod o Fforwm Ieuenctid yr Urdd.

Daw’r croeso i Mr Urdd ymuno â’r Parêd gan ei dad ysbrydol, Wyn Mel, Tywysydd y Parêd eleni. Tra bu Wyn yn gweithio i’r Urdd yn yr 1970au bu’n gyfrifol am ddylunio’r cymeriad cwtshlyd er mwyn rhoi delwedd mwy hwyliog ac agos-atoch i’r mudiad.

Deugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae Mr Urdd yn mynd o nerth i nerth, yn dal i “fynd am dro ar hyd y ffyrdd” yng Nghymru a’i ddawns enwog i’w gweld hyd yn oed yn Hong Kong yr wythnos yma.

Meddai Caryl Griffiths, Swyddog Gymunedol yr Urdd yng Ngheredigion,

“Hoffai’r Urdd longyfarch Wyn Melville Jones, un o lywyddion anrhydeddus y mudiad yn ei rôl yn arwain Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth eleni. Mae Wyn wedi bod yn gefnogaeth gadarn i ddiwylliant Cymru ers degawdau a thrwy ei waith gyda’r Mudiad mae wedi cefnogi ac annog cenedlaethau o blant Cymru i fod yn falch o’u Cymreictod. Fel crëwr Mistar Urdd hefyd wrth gwrs, rydym wrth ein bodd y bydd Mistar Urdd yn cerdded yn falch wrth ei ymyl drwy gydol y Parêd!”