Yr Undodwr o Aberystwyth a frwydrodd yn erbyn Apartheid

Hanes David Ivon Jones (1883-1924)

gan Gruffudd Huw
David_Ivon_Jones6570Anhysbus

David Ivon Jones (Anhysbus, Creative Commons)

Capel Bach New Street, Aberystwyth

Y Capel Bach yn New Street, Aberystwyth

Plac i gofio David Ivon Jones

Plac i gofio am David ar y Capel Bach

Dwy flynedd yn ôl, cyhoeddais erthygl ar y wefan hon am ymddangosiad Niclas y Glais ar y gêm gyfrifiadurol boblogaidd Hearts of Iron 4, sy’n efelychu gwleidyddiaeth, economi a rhyfela cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Mawr syndod oedd hi felly i ddarganfod fod brodor arall o Aberystwyth yn ymddangos mewn addasiad o’r gêm sydd wedi’i lawr lwytho gan dros 500,000 o bobl!

David Ivon Jones yw’r gŵr dan sylw, ac mae’n ymddangos yn y gêm fel arweinydd llywodraeth sosialaidd yn Ne Affrica. Ond pam De Affrica, dros 8,000 o filltiroedd o’i dre enedigol? Dyma fi’n mynd ati i balu am ateb, gan ddarganfod llyfr amdano gan yr anfarwol Gwyn Alff Williams yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Ganed David yn Aberystwyth yn 1883. Yn llanc 18 mlwydd oed, symudodd i Lambed a datblygodd gysylltiad cryf â’r Undodiaid a chapeli’r Smotyn Du, un o’r enwadau Cristnogol mwyaf rhyddfrydol ar y pryd. Cyn hir, dychwelodd i Aber ac ymunodd â chynulleidfa Undodol Capel Bach, New Street. O oedran ifanc felly, roedd David ynghlwm â chymdeithas rhyddfrydol iawn.

Erbyn 1907, roedd yn dioddef o’r diciâu, a dewisodd i symud i Seland Newydd i geisio gwella. Ar y siwrnai hir yn y trydydd dosbarth ar yr SS Omrah i Seland Newydd, cawn gipolwg o agwedd wleidyddol a chymdeithasol David – ei ymateb tuag at y teithwyr yn nosbarth cynta’r llong oedd “It is amusing to see how the toffs above walk about with a sense of their infinite superiority to the motley crew beneath them”. Wedi cyrraedd Seland Newydd, daeth David yn sosialydd brwd.

Erbyn 1910, daw cysylltiad David â De Affrica yn amlwg. Symudodd i’r Weriniaeth Rydd Oren, ardal lle oedd y Boeriaid yn cynnal agweddau hiliol a lle’r oedd Apartheid yn amlwg. Yn wreiddiol ymunodd David â’r South African Labour Party, plaid asgell chwith oedd yn cefnogi Apartheid. Ond dros amser, newidiodd ei agwedd tuag at Apartheid wedi gweld y ffordd roedd y Boeriaid a’r Prydeinwyr yn cam-drin y bobl frodorol. Helpodd David i sefydlu’r undeb llafur cyntaf ar gyfer bobl du’n yn unig a sefydlu ysgolion nos i weithwyr du. Fe ddaeth felly, yn un o’r dynion croen gwyn cyntaf i weithredu yn erbyn Apartheid.

Symudodd unwaith eto yn 1920, y tro hwn ar ei ffordd i’r Undeb Sofietaidd lle bu’n brysur fel cynrychiolydd dros De Affrica yn Nhrydedd Gyngres yr Internationale Comiwnyddol yn 1921. Cyfieithodd gwaith Lenin i’r Saesneg – un o’r dynion cyntaf i wneud hynny. Yn anffodus, daeth y diciâu i’r amlwg unwaith eto, a bu farw yn 1924. Fe’i claddwyd ym mynwent Novodevichy, ynghyd ag enwogion fel Anton Chekov, Sergei Prokofiev a Dmitri Shostakovich.

Erbyn heddiw, does braidd dim cydnabyddiaeth yn ei wlad frodorol o’i gyflawniadau, does dim hyd yn oed tudalen Wikipedia Cymraeg amdano! Yr unig atgof ohono a welais yn Aberystwyth yw plac bychan ar ei hen gapel yn New Street.

Rwyf am gloi â geiriau Gwyn Alff Williams; “He … is one of the most sympathetic men I have ever known. It is high time he was celebrated.”

Darllen Pellach:

https://en.wikipedia.org/wiki/David_Ivon_Jones

Williams, G. A. 1995. The Making of a Unitarian. Llundain. Core Publications.

Hirson, B. a Williams, G. A. 1995. The Delegate for Africa. Llundain. Core Publications.