Trosglwyddo Awenau’r Ysgol Gymraeg

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Mr Williams a Mr James ar ddechrau cyfnod newydd.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Pennaeth yr Ysgol Gymraeg

Mr Clive Williams (de) yn trosglwyddo’r awenau i Mr Gareth James.

Roedd hi’n brysur iawn wrth fynedfa’r Ysgol Gymraeg y bore yma (26ain o Fai) wrth i ddisgyblion, cyn-ddisgyblion a rhieni ddiolch i’r Pennaeth, Mr Clive Williams, am ei waith clodwiw yn llywio’r Ysgol Gymraeg dros y blynyddoedd.  Dechreuodd cysylltiad Mr Williams a’r Ysgol Gymraeg yn 1990 cyn dychwelyd fel Pennaeth yn Ebrill 2001. Wedi’r gwyliau hanner tymor, bydd yn dechrau ar ei secondiad fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Phrif Swyddog Addysg Cynorthwyol Dros Dro gyda Chyngor Ceredigion.

Bydd Mr Williams yn trosglwyddo’r awenau’r Ysgol Gymraeg i Mr Gareth James, sydd wedi bod yn rhan annatod o arweinyddiaeth yr Ysgol ers ei benodi’n Ddirprwy Bennaeth yn 2006.

Dymuniadau gorau i’r ddau yn eu swyddi newydd.