Hefyd, fe enillodd y wobr am y reidiwr mwyaf ymosodol ar y cymal o Barc Margam i Gaerffili yn Nhaith Prydain.
Dydd Gwener diwethaf (8/9/23) cyhoeddwyd fod y beiciwr 27 oed o Gapel Dewi wedi ymestyn ei gytundeb gyda thîm Israel – Premier Tech hyd 2025. Newyddion da i Stevie Williams ac yn wobr haeddiannol am ei berfformiadau yn ystod y tymor. Daeth yn drydydd ym Mhencampwriaeth Rasio Ffordd Prydain ac enillodd Ras Arctig Norwy eisoes eleni.
Daeth y datganiad yma wrth iddo rasio i dîm Prydain yn Nhaith Prydain 2023. I ychwanegu at y newyddion da, daeth Stevie yn drydydd ar gymal saith Taith Prydain a orffennodd yn Nociau Caerloyw ar ddydd Sadwrn. Roedd y perfformiad yma yn ei osod yn yr wythfed safle yn y dosbarthiad cyffredinol, dim ond tair eiliad tu ôl i Wout Van Aert a dim ond un cymal i fynd.
Roedd y cymal olaf ar y dydd Sul yn dechrau ym Mharc Margam ac yn gorffen yng Nghaerffili. Tirwedd oedd yn gyfarwydd iddo. Torrodd Stevie Williams a Carlos Rodriguez yn glir o weddill i reidwyr wrth iddynt ddringo Bryn Du gyda llai na 50km i fynd. Ar un adeg roedd eu mantais o gwmpas munud a hanner.
Ond wrth iddynt gyrraedd Mynydd Caerffili roedd eu mantais wedi lleihau i oddeutu deg eiliad. Wrth iddynt ddringo torrodd Carlos Rodriguez yn glir ac fe gafodd Stevie Williams ei lyncu gan grŵp o reidwyr. Profodd yr ymdrech i gadw’r bwlch ar y blaen yn ormod.
Aeth Carlos Rodriguez ymlaen i ennill y cymal ond Wout Van Aert ennillodd y ras yn ei chyfanrwydd. Gorffennodd Stevie Williams y ras yn bedwerydd ar ddeg. Siom rwy’n siŵr ond tipyn o berfformiad yn erbyn rhai o fawrion y gamp fel Wout Van Aert.
Gobeithio bydd sicrwydd y cytundeb newydd yn rhoi hwb i Stevie Williams ar gyfer y tymor nesaf. Pob hwyl iddo.