Sioe’r Cardis 2024

Gweithgareddau apêl sir Ceredigion ar gyfer y Sioe Fawr yn 2024

gan Sara Jenkins
Helfa Drysor Ceir y Pasg - 16/04/23

Gydag ymgyrch Sioe’r Cardis 2024 yn codi stêm, mae pwyllgor gogledd y sir yn brysur yn trefnu llu o weithgareddau amrywiol a hwylus.

Y digwyddiad nesaf sydd wedi’u drefnu yw Helfa Drysor Ceir y Pasg o dan ofal Jean Evans, Cefnllwynpiod, a’r teulu.

Mi fydd yr helfa drysor yn cychwyn o neuadd Llanafan rhwng 13:00 a 14:00 ddydd Sul, 16 Ebrill, ac yn gorffen yn Nhafarn yr Halfway, Pisgah, lle bydd bwyd ar gael i’w brynu.

Croeso cynnes i bawb, yn enwedig teuluoedd, gan y bydd yna gystadleuaeth ar wahân i blant ysgol gynradd.

Nos Sul, 7 Mai, Gwesty’r Marine, Aberystwyth, fydd lleoliad digwyddiad arbennig – Hwyl yn y Bêc Off!

Mi fydd wyth o gymeriadau lleol yn mynd ati i gwblhau heriau coginio hwylus, amrywiol, a bydd modd i’r gynulleidfa bleidleisio dros y tîm gorau.

Mae’n argoeli i fod yn noson a hanner, ac yn gyfle i fwynhau ar ddiwedd penwythnos Gŵyl y Banc.

Bydd tocynnau ar gael wrth aelodau o’r pwyllgor. Am fwy o wybodaeth am ymgyrch Sioe’r Cardis 2024, ewch i’n tudalen Facebook – Sioe’r Cardis 2024.

Cynhelir y cyfarfod nesaf o bwyllgor gogledd y sir nos Fawrth, 23 Mai, yn neuadd Llanfarian. Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â’r pwyllgor.