Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion 2023

Sioe Aber – Dydd Sadwrn Mehefin y 10fed

gan Emlyn Jones

Mwynhad y sioe ar ein stepen drws

Mwynhad y sioe ar ein stepen drws

Bydd Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion yn cael ei chynnal ar gaeau Gelli Angharad, Capel Bangor ar Ddydd Sadwrn y 10fed o Fehefin. Bydd llu o weithgareddau i’r plant, anifeiliaid o phob math, a llu o stondinau ar y cae. Mae’n sioe i bawb ac yn ddiwrnod llawn hwyl gyda chystadlu brwd yn y dosbarthiadau ceffylau, defaid, gwartheg, wyau, cynnyrch lleol a’r cŵn.

Mae’r gatiau yn agor am 8 y bore ac mae modd dal bws wennol am ddim o Aberystwyth rhwng 10am a 3.30pm. Mae’r bws yn gadael o’r orsaf bysiau pob hanner awr trwy’r dydd.

Mae ardal plant ar y cae gyda nifer o weithgareddau yn ogystal ag adloniant byw, sgyrsiau a phared ceir. Byddwn hefyd yn cael cyfle i weld ceir rali yn mynd o gwmpas y cae wrth i Rali Ceredigion 2023 cael ei lansio.

Gyda’r nos bydd cneifio cyflym, Dafydd Pantrod a Bryn Fôn yn y babell fawr. Dewch draw aton ni am ddiwrnod a noson a hanner.