Sefydlu Sianel YouTube Gymraeg newydd i blant

Mudiad Meithrin yn galluogi mynediad i’r Gymraeg yn y cartref, i bawb

gan Marged Elin Roberts
dewin-a-doti-Mudiad Meithrin

Cymeriadau Mudiad Meithrin, Dewin a Doti

Gyda grant o £496,946 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd Mudiad Meithrin yn mynd ati i ddatblygu sianel YouTube Gymraeg newydd er mwyn annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.

Bydd y prosiect yn digwydd dros gyfnod o dair blynedd, a’r bwriad yw cydweithio gyda staff, teuluoedd a chymunedau i gydgynhyrchu cynnwys i gyflwyno amrywiaeth o fideos addysgiadol a straeon difyr, i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:

“Rŷn ni wrth ein boddau ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a fydd yn ein galluogi i benodi i dair swydd newydd i wireddu prosiect arbennig i ddatblygu cynnwys ar gyfer sefydlu sianel YouTube Cymraeg newydd i deuluoedd. Y nod yw adeiladu ar boblogrwydd cymeriadau unigryw Mudiad Meithrin, Dewin a Doti, i ddatblygu platfform agored, diogel a difyr o gynnwys addysgiadol, amrywiol a hwyliog.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae derbyn y grant yma yn mynd i wneud cymaint o wahaniaeth i’n gwaith i gyflwyno’r Gymraeg i blant a theuluoedd, yn enwedig i deuluoedd nad oes ganddynt fodd i fynychu ein darpariaethau ar hyn o bryd am amryfal resymau. Bydd y grant yn ein galluogi i ddatblygu llyfrgell o ffilmiau addysgiadol amrywiol yn seiliedig ar weithgareddau grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, a Chylchoedd Meithrin i annog teuluoedd i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref gyda’u plant.

I wireddu’r prosiect yn llwyddiannus mi fydd cydweithredu â phartneriaid cymunedol amrywiol yn allweddol i gyrraedd y nod a byddwn yn annog cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau eraill ledled Cymru.”

Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

“Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da ledled y DU.

Diolch i bawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ei gwneud yn bosibl i ariannu prosiectau, fel un Mudiad Meithrin, sydd am wneud hi’n llawer haws i blant a theuluoedd ledled Cymru gael mynediad at y Gymraeg.”