Sedd Penparcau i Shelley Childs

Dim ond 25% o’r etholwyr wedi pleidleisio

Etholwyd y Cynghorydd Shelley Childs yn ystod isetholiad ward Aberystwyth Penparcau a gynhaliwyd ddydd Iau, 16 Tachwedd 2023.

Bydd y Cynghorydd o blaid Plaid Cymru yn cynrychioli’r ward fel Cynghorydd Sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Daeth y swydd yn wag yn dilyn ymddiswyddiad y Cyn-gynghorydd Steve Davies ym mis Hydref 2023.

Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 25.24% gyda 37% o’r pleidleisiau yn mynd i’r Cynghorydd Shelley Childs.

  • Shelley Childs (Plaid Cymru) 201 (36.7%)
  • Alex Mangold (Llafur) 122 (22.3%)
  • Tomi Morgan (Annibynnol) 122 (22.3%)
  • Bryony Davies (Democratiaid Rhyddfrydol) 76 (13.9%)
  • Ewan Lawry (Torïaid) 27 (4.9%)

Diolchodd Shelley i bawb ar Facebook:-

Wel, mae pobl Penparcau heno wedi fy ethol fel eu cynghorydd sir i wasanaethu ochr yn ochr â’r Cyng. Carl Worrall am y 3 blynedd nesaf.

Mae wedi bod yn daith datblygiad personol go iawn ac yn rhywbeth rydw i wedi’i fwynhau, wedi cwrdd â llu o bobl newydd ac wedi ailgysylltu â’r cymdogaethau rydw i wedi byw ynddynt dros y blynyddoedd.

Diolch i Blaid Cymru Ceredigion a’u tîm o ymgyrchwyr profiadol a fu’n canfasio a dosbarthu taflennu, ac i Elin Jones am ei mentoriaeth.

Mae llawer o bobl yn cwyno (yn cynnwys fi), rhai yn pleidleisio, ac ychydig iawn yn sefyll, felly parch i fy nghyd-ymgeiswyr Alex Mangold, Tomi Morgan, Bryony Daly, Ewan Lawry. Rwyf wedi darllen eu taflenni ymgyrchu ac mae llawer o’u pwyntiau polisi yn cytuno gyda fy marni i, felly byddaf yn pwyso am atebion ar gynifer o’r rhain ag y gallaf.

Yn olaf, diolch i fy mhartner Theresa Sharland am ei chefnogaeth a’i meddyliau i fy nhad Michael Childs a fyddai wedi bod yn fy nghefnogi’r holl ffordd trwy hyn.