Plannu hadau blodau gwyllt yn Nhrawsgoed

Disgyblion Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yn plannu hadau ar gyfer digwyddiad Tir Glas 2024

gan Sara Jenkins

Mae’r gwaith trefnu ar gyfer Digwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru yn ei anterth.

Prynhawn Gwener, 19 Mai, bu rhai o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Llanfihangel-y-Creuddyn, sef yr ysgol leol, yn plannu hadau blodau gwyllt, er mwyn harddu’r fynedfa i’r digwyddiad.

Bydd y digwyddiad yn cael eu gynnal ddydd Iau, 30 Mai 2024. Ond mae’n rhaid cynllunio ymhell cyn hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod yr hadau’n cael cyfle i egino a thyfu mewn pryd ar gyfer y digwyddiad.

Diolch i staff a disgyblion yr ysgol, i Steve Jones, rheolwr fferm Trawsgoed, ac i gwmni hadau Germinal am noddi’r hadau.

Edrychwn ymlaen at rannu mwy o’r paratoadau gyda chi yn fuan.