Pencampwriaethau rhedeg llwybrau Cymru’n dychwelyd i Bontarfynach

Sialens y Barcud Coch i’w gynnal ar 29 Ebrill

gan Rhedeg Aber
Dechrau-Ras-Barcud-2022-eto

Dechrar Ras y Barcud 2022 (Llun: Gareth Roberts)

Unwaith eto eleni, bydd Pontarfynach yn croesawu rhai o redwyr trêl gorau Cymru fel wrth iddynt rasio yn Sialens y Barcud Coch ar 29 Ebrill.

Sefydlwyd y digwyddiad rhedeg llwybrau, neu trêl, yn 2003 gan olygu bod y trefnwyr yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 20 oed eleni, ac mae’n addo bod y digwyddiad mwyaf a gorau hyd yma.

Sylfaenydd Sialens y Barcud Coch ydy rhedwr enwocaf yr ardal Dic Evans, a’i nod oedd i ddenu’r goreuon o’r byd rhedeg llwybrau, ynghyd â phencampwriaethau rhedeg o bwys, i ganolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd, mae’r digwyddiad yn rheolaidd wedi cynnwys pencampwriaethau Cymru a Gorllewin Cymru ar gyfer rhedwyr ieuenctid a hŷn, ac  mae’r trefnwyr yn falch i gyhoeddi bydd hynny’n digwydd unwaith eto yn 2023.

Mae’r cofrestru ar gyfer y rasys ieuenctid o oedrannau dan 13 i dan 20 nawr ar agor, yn ogystal â’r rasys oedolion dros bellteroedd 10k a ½ Marathon

Cyfleoedd i gynrychioli Cymru

Yn ogystal â medalau rhanbarthol a chenedlaethol, mae cyfleoedd hefyd i ennill lle mewn timau rhyngwladol, gan fod nifer o’r rasys yn rai dethol ar gyfer timoedd Cymru amrywiol.

Mae’r ras dan 18 oed yn ras ddethol ar gyfer cynrychioli tîm Cymru fydd yn cystadlu yng Nghwpan Rhedeg Mynydd Rhyngwladol dan 18 WMRA yn Annecy, Ffrainc ar ddydd Sadwrn 27 Mai.

Bydd yr ½ Marathon hefyd yn cael ei ddefnyddio er mwyn dewis tîm i gynrychioli Cymru yn y Trail de Guerledan yn Llydaw eleni.

Yn ogystal â denu cystadlu o’r safon uchaf i’r ardal, nod pwysig arall Sialens y Barcud Coch ydy codi arian at elusennau lleol a dros y blynyddoedd mae’r digwyddiad wedi codi dros £20,000 tuag at Ysbyty Bronglais.

Eleni, bydd y ras yn codi arian hanfodol i gefnogi uned strôc Bronglais, sef Ward Ystwyth – yn anffodus, bu i Gyfarwyddwr y Ras, Dic Evans, ddioddef strôc ychydig ddyddiau cyn y Nadolig ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn Ward Ystwyth. Bydd unrhyw un sy’n codi £50 neu fwy mewn nawdd yn cael safle yn y ras am ddim – dylid cysylltu â Dirprwy Gyfarwyddwr y Ras am y ffurflenni nawdd.

Mae’r trefnwyr hefyd yn galw ar fusnesau lleol i gefnogi’r digwyddiad trwy nawdd ariannol neu mewn da. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud hyn gysylltu â Dirprwy Gyfarwyddwr y Ras, Tom Roberts, dros e-bost ar rasybarcud@gmail.com