Parêd y ddwy Dywysoges Gwenllïan

Carnifal yn Aberystwyth i ddathlu dwy Wenllïan arbennig

gan Cyngor Tref Aberystwyth

Mae gwahoddiad i bawb i Barêd a Charnifal i ddathlu’r ddwy Dywysoges Gwenllïan ar ddydd Sadwrn 17 o Fehefin 2023 am 12 o’r gloch.

Bydd y parêd o dop y dre ger Neuadd y Farchnad a Charnifal i ddilyn yng Nghastell Aberystwyth, ac mae yn ddigwyddiad rhad ac am ddim.

Mae croeso i bawb boed yn grwpiau neu unigolion, ffrindiau a theuluoedd. Gobeithir y bydd pawb yn gwisgo dillad ffansi ar unrhyw thema Gymreig i ymuno â ni i ddathlu ein treftadaeth genedlaethol

Pwy yw’r Tywysogesau Gwenllïan?

  • Y Dywysoges Gwenllïan, neu Gwenllïan Cymru (1282 – 1337): oedd unig blentyn Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog brodorol olaf Cymru. Cafodd ei dal yn faban ar ôl i’w thad gael ei ladd ger Pont Irfon, bu farw ei mam yn fuan ar ôl iddi gael ei geni). Yn etifeddes teulu brenhinol Aberffraw, ystyrid hi yn fygythiad gan Frenin Lloegr, Edward I ac fe’i rhwystrodd rhag priodi a chynhyrchu etifeddion trwy ei chymryd yn garcharor a’i chadw mewn lleiandy yn Swydd Lincoln am weddill ei hoes.
  • Gwenllïan ferch Gruffydd (1100-1136): yn ferch i Gruffudd ap Cynan, Tywysog Gwynedd. Priododd Gruffydd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth a chyfrannodd ei ‘gwrthryfel gwladgarol’ yn erbyn y Normaniaid a’i marwolaeth ddilynol mewn brwydr yng Nghastell Cydweli at Wrthryfel Mawr 1136. Gwenllïan yw’r unig fenyw o’r canol oesoedd y gwyddir iddi arwain byddin Gymreig i frwydr.

Pam mae’r Cyngor Tref yn annog hyn?   

Mae busnesau lleol wedi wynebu her ar ôl her yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r Cyngor Tref am eu cefnogi. Dyma’r ail ddigwyddiad mewn rhaglen o ddigwyddiadau hanesyddol a diwylliannol Cymreig i gryfhau ymdeimlad Aberystwyth o le a hunaniaeth tra ar yr un pryd yn creu delweddau cofiadwy y bydd ymwelwyr eisiau dod i’w gweld

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch council@aberystwyth.gov.uk – 01970 624761