Y gyrrwr o Fachynlleth Osian Pryce a’i gyd-yrrwr Stephane Prevot, mewn Volkswagen Polo, enillodd Rali Ceredigion JDS Machinery wedi deuddydd o rasio brwd o amgylch gogledd Ceredigion. Wedi adeiladu mantais o 42.7 eiliad wedi’r diwrnod cyntaf, llwyddodd i amddiffyn ei fantais ar yr ail ddiwrnod i ennill yn weddol gyfforddus o 29 eiliad. Dyma’r ail dro i Osian ennill Rali Ceredigion wedi iddo ddod i’r brig yn y rali gyntaf yn 2019.
Roedd y gystadleuaeth am yr ail safle yn agosach gyda Meirion Evans a Jonathan Jackson 8.6 eiliad ar y blaen i James Williams a Dai Roberts yn drydydd. Roedd y trydydd safle yn ddigon i James Williams o Gastell Newydd Emlyn sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaeth Rali Prydain. Roedd yn gyrru Hyundai i20 N.
Roedd hefyd buddugoliaeth i’r Cymro ifanc Ioan Lloyd o Landysul gyda Siôn Williams yn y dosbarth RC4 yn gyrru Peugeot 208.
Un modur o ddiddordeb lleol oedd y Darrian T90GTR. Mae pencadlys Darrian yn Llangybi ger Llanbed. Daeth John Dalton a Gwynfor Jones yn ddegfed yn y ras. Roedd hi’n braf gweld car Cymreig arall sef y Gilbern yn rasio hefyd.
Roedd hi’n gyfle gwych i yrwyr lleol fwynhau’r rali a nifer yn gyrru’r bytholwyrdd Ford Escort Mk2!
Wrth gael eu cyfweld ar ddiwedd y ras, roedd y gyrwyr i gyd yn canmol y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr am yr holl waith caled i sicrhau llwyddiant y ras.
Braslun yn unig yw hyn o’r rali. Am fanylion llawn ewch i www.raliceredigion.co.uk .