Oriel y bardd

Lansio cyfrol newydd gan awdur toreithiog

gan Iestyn Hughes

Cynhaliwyd noson hynod o ddifyr yn Llyfrgell y Dref, Aberystwyth, nos Iau, 8 Mehefin, i lansio cyfrol ddiweddaraf yr awdur lleol toreithiog, D. Geraint Lewis.

Y flodeugerdd hon o farddoniaeth gofiadwy a bachog gan nifer helaeth o feirdd yw’r 38ed gyfrol i Geraint ei chyhoeddi.

Yn y noson, a drefnwyd gan Gyhoeddiadau Barddas, holwyd Geraint gan Gwerfyl Pierce Jones, a datgelwyd llawer am hanes cynnar Geraint yn tyfu i fyny yn Ynys-y-bŵl, a’r effaith gafodd ei fagwraeth ddi-Gymraeg ar ei yrfa a’i weledigaeth oes i wneud y Gymraeg yn hygyrch a deniadol.

Agor dôr i wlad o iaith,
i’r rhin sy’n un â’r heniaith.

(rhif 401, Tudur Dylan Jones)

Mae’r dyfyniadau o gerddi a geir yn y gyfrol wedi’u dosbarthu yn ôl neges a naws, gyda mynegai hwylus iawn o allweddeiriau yn galluogi’r darllenydd i ddarganfod dyfyniad perffaith at bob achlysur. Dyma ffordd ddifyr iawn o osod allan stondin ein beirdd, y sawrus a’r melys, y doniol a’r dwys, yr hiraethus a’r heriol.

Roedd Siop Inc yno ar y noson i gefnogi ac i werthu’r gyfrol, ac mae hi ar gael am £9.95

A gwên ar gynnig yno
i gwsmer cownter y co’

(rhif 1017, Idris Reynolds)