Mae tîm pêl-droed Merched Aberystwyth wedi anfon neges i’w cefnogwyr cyn eu gem gyntaf dydd Sul: –
O’n tîm cyntaf yng nghynghrair Cymru, ein tîm datblygu, ein tîm o dan 19 a’n canolfan ddatblygu merched (ein dyfodol ni), heb anghofio’r pêl-droed hwyliog a gynigiwn drwy wersylloedd a’n Huddle sydd yn datblygu ein chwaraewyr lleiaf – rydym yn falch o gynnig y cyfleoedd sydd eu hangen ar fenywod a merched.
Mae pêl-droed merched yn Aberystwyth yn ffynnu. Ond maent angen eich cefnogaeth. Mae Clwb Pêl-droed Merched Tref Aberystwyth yn cael ei redeg gan bwyllgor bach o wirfoddolwyr ymroddedig, gan gynnwys y swyddog cyfryngau Carrie, y mae ei llyfr newydd ‘Woman Up – Pitches, Pay and Periods: The Progress and Potential of Women’s Football‘ allan ym mis Hydref.
Ysgrifennodd Carrie y llyfr yn ystod y tymor diwethaf, ac mae’r llyfr wedi’i gyflwyno i chwaraewyr Clwb Pêl-droed Merched Tref Aberystwyth pan gafodd pob un o’n tri thîm hŷn gymaint o lwyddiant ar y cae, a phan wnaeth eu prosiectau ar gyfer y plant iau – gan gynnwys ein rhaglen masgot wedi cael cymaint o lwyddiant.
Mae costau gweithredu y clwb yn cynyddu. Mae’n gyfnod anodd iawn i bawb – ond gallwch chi fod Helpu Merched (“Woman Up”) ym mha bynnag ffordd sydd orau i chi.
- Cefnogwch y tîm cyntaf yng Nghoedlan y Parc y tymor hwn – mae eich cefnogaeth yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae ein gêm gartref gyntaf yn ymgyrch Genero Adran Premier ddydd Sul 17eg Medi, yn erbyn Tref y Bari, cic gyntaf am 2pm (mynediad i oedolion £5, consesiynau am ddim). Gallwch brynu cerdyn tymor am £40, sy’n gwarantu mynediad i bob un o’r saith gêm gartref Cam Un, pob un o’r tair gêm gartref Cam Dau a hyd at ddwy gêm gwpan o’ch dewis.
- Prynwch docyn raffl yn ein gêm gartref gyntaf am y cyfle i ennill hamper a roddwyd yn garedig gan Tesco Aberystwyth.
- Dewch i un o’n digwyddiadau codi arian “Woman Up” yn ystod y tymor.
- Gwnewch gyfraniad ariannol, boed hynny’n un tro neu’n rheolaidd – ein cyfeiriad PayPal yw abertownladiesfc@gmail.com. Mae pob cyfraniad bach yn gwneud gwahaniaeth.
- Rhannwch negeseuon cyfryngau cymdeithasol i helpu i gynyddu ein cyrhaeddiad.
Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth barhaol.