Llwybr Nadolig

Celf Nadoligaidd newydd yn Aberystwyth 

gan Catherine Taylor

Mae gosodiad celf newydd o stori’r Nadolig wedi ymddangos ym Maes Gwenfrewi, y parc hyfryd rhwng Ffordd y Gogledd a Heol y Wig yn Aberystwyth.

Bu’r artist cymunedol Lois Adams yn helpu plant ysgolion y dre i ddylunio a phaentio cyfres o baneli sy’n adrodd Stori’r Nadolig.

Rheolir y parc gan Gyngor Tref Aberystwyth. Pan ofynnodd Eglwys Efengylaidd Aberystwyth am ganiatâd i greu’r Trywydd Nadolig, roedd y Cyngor yn hapus i gymeradwyo’r syniad gan fod yr addurniadau lliwgar hyn yn ychwanegu at naws Nadoligaidd y dre.

Bydd y Trywydd Nadolig yn aros ym Maes Gwenfrewi gydol mis Rhagfyr, ac mae’r parc yn agored yn ystod oriau golau dydd.

Cynhelir gwasanaeth carolau yn seiliedig ar y gwaith celf brynhawn Sul, 17 Rhagfyr, yn Neuadd Llanfarian, man cyfarfod yr eglwys, am 5yp.

Croeso i bawb.