Llun gan Wyn Mel i gydnabod ymdrechion i hybu’r Gymraeg

Tywysydd y Parêd yn cyflwyno llun o’i waith yn wobr i fusnes neu sefydliad am hybu’r Gymraeg

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins
Wyn-Mel-ar-llun

Wyn Mel gyda’r llun o’i eiddo o’r machlud ar Angel Heddwch Aberystwyth fel gwobr i fusnes neu gorff am hybu’r Gymraeg.

Mae’r darlun Machlud Haul Aberystwyth yn gofnod o’r eiliadau a’r munudau syfrdanol a chofiadwy hynny ar bromenâd Aber ar ddiwedd y dydd cyn i’r haul tanbaid ddiflannu dros y gorwel ac i Ynys Enlli doddi yn y gwyll.

“Mae machlud haul yn Aberystwyth yn enwog,” meddai Wyn.

A bydd llun o’r olygfa arbennig hon yn cael ei roi’n wobr am ymdrechion i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Aber.

Mwy o ddefnydd o’r Gymraeg

Yn ôl Wyn Mel (Wynne Melville Jones), sefydlydd Strata, cwmni PR dwyieithog cyntaf Cymru, a gŵr busnes llwyddiannus, mae mwy o gwmnïau a sefydliadau yn Aberystwyth yn rhoi lle amlycach i’r Gymraeg. A nawr mae angen annog rhagor i ddilyn yr un llwybr.

Byddai llwyddo i ddatblygu’r Gymraeg fel iaith busnes a gweinyddiaeth a’i gwneud yn ganolog i fywyd pob dydd trigolion yr ardal yn golygu newid yn yr ethos, ehangu’r cyfleusterau a hwyluso’r defnydd o’r iaith mewn ffordd boblogaidd a deniadol.

Y nod yw atal y trai a welwyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl ffigurau’r Cyfrifiad a gyhoeddwyd ar droad y flwyddyn.

Cydnabod gwaith da

“Nod y wobr yw cydnabod y gwaith da sydd eisoes yn cael ei gyflawni a bod yn abwyd i eraill ddangos yr un balchder yn yr Iaith drwy ddatblygu ffyrdd naturiol a hwyluso’i defnyddio ymhlith holl drigolion y fro – yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg ynghyd ag ymwelwyr,” meddai Wyn.

Derbynnir enwebiadau ar gyfer llunio rhestr fer o ymgeiswyr addas ar gyfer y wobr hon, a bydd y darlun yn cael ei gyflwyno’n rhodd barhaol i’r enillydd. Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi yn ystod y Parêd, fydd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 4 Mawrth 2023.

Cylch Cinio Aberystwyth sy’n gweinyddu’r trefniadau ar gyfer y wobr, gyda chymorth Cylch Cinio Merched Aberystwyth mewn cydweithrediad â Phwyllgor y Parêd.

“Mae’r Parêd yn gyfle cyhoeddus a hwyliog i ddathlu ein Cymreictod. A’r bwriad yw creu ymwybyddiaeth bositif ym mhob agwedd o fywyd y dref – yn siopau, archfarchnadoedd, swyddfeydd, tafarndai, bwytai,  meddygfeydd, ffatrïoedd, cyfleusterau hamdden ac adnoddau cymdeithasol, yn ogystal â mudiadau gwirfoddol a sefydliadol.

“Mae Aberystwyth yn dref ddwyieithog bwysig yng Nghymru yn hanesyddol, ac fel tref prifysgol gyfoes a chanolfan weinyddol flaengar, mae’n gyrchfan gosmopolitan ac mae cyflogaeth Gymraeg sylweddol yn y dref a’r dalgylch.

“Mae llygaid Cymru ar Aberystwyth a gall trefi eraill ddilyn,” meddai Wyn.

Dathlu deg

Ers 2013 mae Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth wedi bod yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn, ac yn ôl Siôn Jobbins, Cadeirydd Pwyllgor y Parêd, mae’n achlysur sy’n tanio Cymreictod y dre a’r ardal.

Cynhelir Parêd 2023 ddydd Sadwrn, 4 Mawrth, gan gychwyn o Gloc y Dre am 1 o’r gloch a cherdded i lawr i waelod y Stryd Fawr, ar hyd Ffordd y Môr at Lys y Brenin. Mae croeso i bawb ymuno yn yr orymdaith.

Yn ôl y sôn, mae’r cymeriad eiconig a bytholwyrdd Mistar Urdd, a grëwyd gan Wyn Mel yn niwedd yr 1970au, yn bwriadu ymuno yn yr hwyl.

Enwebu

Os hoffech enwebu busnes, mudiad neu sefydliad ar gyfer y wobr, gellir cysylltu â Huw Williams, Ysgrifennydd Cylch Cinio Aberystwyth, ar huw_williams1@btinternet.com