Lansiad CD Parti Camddwr

Noson fendigedig yn Nhafarn y Bont, Bronant

gan Efan Williams
1

Cynhaliwyd lansiad CD newydd Parti Camddwr, wedi hir ymaros, nos Wener 14 Gorffennaf yn Nhafarn y Bont, Bronant. Roedd hi’n noson lawog a gwyntog, ond daeth tyrfa dda ynghyd ac roedd y dafarn dan ei sang!

Dechreuwyd y noson gyda chyfle i bawb brynu tocyn raffl ac ymweld â’r bwrdd lle’r oedd yn CDs ar gael i’w prynu. Bu gwerthiant cryf drwy’r nos a gwerthwyd bron i 150 o CDs ar y noson. Dechrau da i’r gwerthiant, felly. Cliciwch ar y linc uchod i wrando ar ein fersiwn ni o Seidr Ddoe, gan Linda Griffiths.

Aeth y noson yn ei blaen wedyn gyda’r parti yn canu rhyw 5 cân, cymysgedd o’r hen ganeuon a rhai newydd. Dechreuwyd wrth ganu Hiraeth y Cymro a diweddu’r rhan gyntaf gydag alaw werin, yr Hogen Goch. Rhoddodd Efan deyrnged fer i Vaughan Evans, ein cadeirydd, a fu farw’n ddiweddar a soniodd am y ffrindiau rydyn ni wedi eu colli ar hyd y daith. Yna daeth cyfle i gymdeithasu unwaith yn rhagor, i brynu tocynnau raffl ac wrth gwrs i werthu rhagor o CDs.

Yn yr ail ran roedd syrpreis wedi ei baratoi gan y bois sef gwahodd merched Triano, sef Charlotte, Emily a Jessica, tair chwaer sydd yn byw yng Nghefnllwyn, Swyddffynnon, i fyny i’r llwyfan i ymuno gyda ni yn ein fersiwn ni o Calon Lân. Wrth i’r merched ganu eu hail eitem, sef medli o ganeuon Cymraeg, aeth rhai o’r bobl ifanc â bwcedi o amgylch y dyrfa. Mae’r merched yn mynd i Ŵyl Gymreig Gogledd America yn Nebraska yn nes ymlaen yn yr haf ac maen nhw angen codi arian i dalu am eu taith yno. Roedd pobl Bronant yn garedig iawn a chodwyd swm sylweddol.

Canodd y parti ambell i gân arall wedyn a chafwyd llawer iawn o hwyl. Roedd awyrgylch gartrefol dros ben i’r noson ac roedd y bois yn teimlo cefnogaeth a gwerthfawrogiad y dyrfa i’r byw. Roedd byrgyrs ar gael ar y noson wedi eu coginio gan June ac Olwen, diolchwyd iddynt a derbyniodd y ddwy rodd fechan a chyflwynwyd blodau i Elisabeth James, cadeirydd y parti. Daeth y canu i ben wedyn gyda phawb yn ymuno gydag Efan i ganu Unwaith Eto ‘Nghymru Annwyl a pharhaodd y gwerthu a’r cymdeithasu tan oriau mân y bore.

Noson fendigedig. Carai’r parti ddiolch i bawb a gyfrannodd at y noson mewn unrhyw ffordd ac i bawb am eu cefnogaeth, eu caredigrwydd a’u cwmnïaeth. Mae diwylliant ein bro yn fwrlwm i gyd. Dathlwn ryfeddodau’r dyfodol!