Yn dilyn ymadawiad Geraint Hughes wedi blwyddyn fel cynghorydd Llanfarian, mae dwy blaid wleidyddol wedi cyhoeddi eu hymgeiswyr ar gyfer yr isetholiad.
Cynhelir yr isetholiad ar yr 20fed o Orffennaf, ond gyda nifer o bleidleiswyr post yn y ward, sydd yn dychwelyd eu pleidlais yn gynnar, mae’r ymgyrchu yn dechrau.
Karen Deakin o Gapel Seion yw ymgeisydd Plaid Cymru, ac wedi byw yn y ward erioed. Mae Karen yn weithgar iawn yn y gymuned, fel Cynghorydd Cymuned ers 2018, Cadeirydd y Cyngor Cymuned ers dros dair blynedd, a thrysorydd Neuadd y Paith am 6 mlynedd. O ddydd i ddydd, mae Karen yn gweithio yn Adran Gyllid Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn gweld hyn fel ffordd o amddiffyn cymuned sydd yn bwysig iawn iddi hi.
Dywed Karen:
“Rwy’n deall y pwysau sy’n wynebu pawb gyda’r sefyllfa economaidd bresennol a’r heriau rydyn ni’n wynebu mewn ardal wledig, a dyna pam yr hoffwn gael y cyfle i gynrychioli ein cymunedau fel Cynghorydd Sir. Rwyf wedi dysgu llawer o’r Cyngor Cymuned, ond rwyf wedi gweld fod angen llais ar y Cyngor Sir i sicrhau fod cymunedau Blaenplwyf, Capel Seion, Stad Ddiwydiannol Glanrafon, Llanfarian, Moriah a Rhydyfelin yn cael llais.”
David Raymond Evans yw ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Mae’n fwy adnabyddus yn lleol fel “Truck” ac yn byw yn Llanfarian. Mae Truck yn ymwneud a grwpiau lleol gan gynnwys llywydd Clwb Rygbi Aberystwyth.
Dywedodd Mark Williams:
Bydd Truck Evans yn dod a chyfoeth o brofiad i’r cyngor ac yn gynrychiolydd aruthrol i bobol ward Llanfarian. O wasanaethu bysiau gwledig i lygredd yn ein hafonydd a’n mor, cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n gwneud y gwaith o ddwyn gweinyddiaeth Plaid Cymru i gyfrif. Mae ward Llanfarian angen Truck Evans i ymuno a nhw.
Nododd Ben Lake am Karen:
Rydym angen mwy o leisiau merched ar y Cyngor, yn arbennig rhai fel Karen sydd yn weithgar yn ei chymuned. Mae’n awyddus iawn i’ch cynrychioli ar y Cyngor Sir, er mwyn iddi wneud gwahaniaeth a chyfraniad pellach at y ffordd mae Llanfarian yn datblygu.
Bydd angen cyflwyno unrhyw enwebiadau cyn dydd Gwener y 23ain o Fehefin, ac mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr pellach yn y rhestr derfynol o ymgeiswyr.