Hafod: Sengl ac albwm newydd Bwca

Stori sengl agoriadol ail albwm Bwca fydd yn cael ei ryddhau yn fuan

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)

Allan fory y 5ed o Fehefin

Efallai fod rhai ohonoch wedi meddwl fod Bwca wedi bod yn dawel yn ddiweddar felly hyfryd yw gallu cyhoeddi y bydd ‘Hafod’ sef trac-deitl ail albwm Bwca yn cael ei rhyddhau fel sengl ar ddydd Llun 5ed Mehefin. 

Fel mae’r llun uchod yn awgrymu, cân yw Hafod sydd wedi ei ysbrydoli gan ystâd newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Cwmystwyth. Wedi ei ysgrifennu gan Steff Rees mae’r gân yn mynd i’r afael â’r cysyniad fod rhaid teithio’r byd i gael profiadau da, i gael heddwch meddwl ac am ysbrydoliaeth bywyd.

Cer di bant i weld y byd

Os taw ’na beth sy’n mynd â dy bryd

Neu mae croeso i ti’n fy myd.

Bydd dim rhaid i ni fynd ymhell

Ond bydd rhaid i ddarganfod gwell

Ac mae’n teimlo fel rhywle pell.

Ma’ na fwy nac un ffordd i fynd â Wil i’w wely

A mwy nac un ffordd i ti allu ffindo dy hun

Fel hala’r haf

Yn rhywle braf

A mae mor braf

Yn yr Hafod.

Ysgrifennwyd y gân yn 2020 pan roedd teithio’r byd yn amhosib ac roedd pobl fel Steff yn darganfod neu yn ail-ddarganfod lleoliadau pert yn eu milltir sgwâr. O ystyried fod gan ganeuon Bwca dueddiad o dynnu blew o drwynau’r genedl mae Hafod yn mynd ar ôl y bobl hynny sydd yn pregethu dros leihau allyriannau carbon tra hefyd yn hedfan i bob cwr o’r byd er mwyn cadw lan gyda’r Jonesiaid.

Os ti’n moyn gweld llefydd tlws

Ma’ fe da ti ar y stepen drws

Yn y bryniau sydd o mor dlws.

Yn y coed ma’ na drysor cudd

Ger yr afon gei di deimlo hud

Y rhaeadrau a’r ogof gudd.

Ers y Cyfnod Clo mae Steff wrth gwrs wedi datblygu i fod yn bencampwr ar gyfer rhyfeddodau naturiol ei filltir sgwâr trwy hyrwyddo syniadau beicio graean gyda’i dudalen Instagram @ybachangraean a hefyd trwy gychwyn arwain teithiau cerdded ‘Ar Gered’ yn ardal Y Topie fel rhan o’i waith gyda Cered. Mae’r geiriau ’dilyna fi’ a glywir ar ddiwedd y cytganau ac yn y bont felly yn cyfeirio at hyn ac yn annog y bobl yma i ddilyn ei esiampl a mwynhau pleserau syml sydd yn agosach i gytre.

Wedi ei recordio yn Our Lady Studio gyda’r cynhyrchydd Mike West mae Hafod yn gân roc cyfoes ei naws sydd yn rhoi un winc tuag at sain roc amgen yr 80au a sengl ddiwethaf Bwca sef ‘Pam Dylen Ni Ddim’ tra bod sain sacsoffon Hannah McCarthy yn rhoi winc fach i gyfeiriad un o artistiaid mwyaf poblogaidd y presennol sydd hefyd yn gefnogwr brwd Newcastle United fel Steff – Sam Fender.

Yn ogystal â Hannah a Steff, mae’r gân hon yn cynnwys Iwan Hughes ar y drymiau a Peter Evans ar y bas.

Bydd Hafod yn cael ei ryddhau fel sengl yn ddigidol ar blatfformau megis Spotify ac Apple Music ar ddydd Llun Mehefin 5ed a hynny er mwyn rhoi blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl ar yr albwm o’r un enw fydd yn cael ei ryddhau ar CD ar ddydd Gwener 16eg Mehefin.

Os hoffech gopi o’r CD, print ecsliwsif o’r clawr a chlywed holl ystyr caneuon eraill yr albwm yna dewch yn llu i noson lansio swyddogol yr albwm yn Y Llew Gwyn, Talybont ar nos Wener 23ain Mehefin.

I ddysgu mwy am Bwca cofiwch ddilyn @bwcacymru ar y cyfryngau cymdeithasol.