Does dim tocynnau i un o sesiynau yn yr Ŵyl lenyddol erbyn hyn, felly beth am archebu eich tocyn cyn gynted â phosibl?
Bydd y digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth rhwng y 21ain a’r 23ain o Ebrill, yn amrywio o Lyfrgell y Dref, Amgueddfa Ceredigion, taith gerdded o’r bandstand a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Ydych chi eisiau dysgu am y grefft o ysgrifennu neu eisiau gwybod beth sydd wedi ysbrydoli eich hoff awduron?
Gyda nifer o sesiynau Cymraeg, mae awduron fel Caryl Lewis, Fflur Dafydd, Alun Davies, Gwen Parrott a Jon Gower yn cymryd rhan, yn ogystal â sesiwn gyda chyhoeddwyr Gwasg Carreg Gwalch a’r Lolfa.
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn un o’r noddwyr, mae’r Cyngor yn hynod o falch o weld y digwyddiad yn dychwelyd o ddwy flynedd ar-lein i ddigwyddiadau ar hyd y dref.
Mae siop lyfrau Waterstones wedi addurno ei ffenest i baratoi tuag at yr Ŵyl, a gyda nifer o brif awduron trosedd o Brydain yn mynychu, fe ddylem weld nifer o ymwelwyr yn dod i Aberystwyth am y tro cyntaf ar gyfer yr Ŵyl.
Dywedodd Alis Hawkins, un o sylfaenwyr Crime Cymru a chadeirydd yr Ŵyl: –
‘Mae’n gyffrous iawn meddwl ein bod ni’n dod â’r ŵyl ffuglen drosedd fyw gyntaf i Gymru, a bydd yna rywbeth i bawb. Mae llwyddiant ein gwyliau ar-lein yn 2021 a 2022 wedi dangos bod galw mawr am ŵyl fel hon a’i golwg ffres ar y genre poblogaidd hwn. Rydym wedi croesawu mynychwyr o ledled y byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Awstralia, Gwlad yr Iâ a nifer o leoliadau rhyngwladol eraill, yn ogystal â ffans trosedd o Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig, a oedd i gyd yn canmol hwyl yr ŵyl. Nawr ,rydym am ddod â chymaint o ffans ag sy’n bosibl i dref hyfryd Aberystwyth, gan weithio gyda’r awdurdod lleol a busnesau lleol i ddarparu rhywbeth hollol unigryw ac arbennig. Byddwn ni’n datgan cyn bo hir pwy fydd ar restr y gwesteion.’
I gael mwy o wybodaeth – cliciwch yma. I archebu tocynnau, prynwch drwy Eventbrite.
Aberystwyth – rhowch groeso mawr i’r Ŵyl.